Biocemeg a Geneteg
Mae gan eneteg botensial di-ben-draw, bron, i’n cynorthwyo i ddeall iechyd a chlefydau dynol, esblygiad ac amrywiaeth pethau byw. I ategu hyn, mae biocemeg yn rhoi dealltwriaeth fecanistig o sut mae prosesau cemegol yn pennu bioleg organeb.
Wrth astudio gyda ni, byddwch yn cael sylfaen drylwyr mewn gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â’r pwnc, yn ogystal â datblygu sgiliau mewn protocolau ac arferion gwyddonol, sy'n hanfodol os ydych am ddilyn gyrfa wyddonol.
Pam astudio Biocemeg a Geneteg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau ymarferol a sgiliau labordy fel bod ein graddedigion yn dod yn ymarferwyr o'r cychwyn cyntaf.
- Rydym yn sicrhau bod gan ein myfyrwyr y sgiliau i gyfleu eu gwyddoniaeth yn effeithiol fel y gallant ymuno â thrafodaethau ynghylch geneteg - maes sydd, yn aml, yn un dadleuol.
- Mae ein graddau ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant i sicrhau eich bod gam ar y blaen wrth ichi ymuno â’r farchnad swyddi pan fyddwch yn graddio.