Peirianneg
Mae ar beirianwyr angen y gallu i arbrofi ac arloesi, meddwl yn greadigol, dylunio a datblygu, ynghyd â sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau er mwyn gallu cynhyrchu systemau a strwythurau cymhleth a darparu atebion peirianyddol mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
Mewn byd sy'n anelu am sero net, a byd sy’n ceisio darganfyddiadau meddygol a gwelliannau technolegol parhaus i’r dyfeisiau a’r systemau a ddefnyddiwn bob dydd, mae sgiliau ym maes peirianneg drydanol ac electronig yn hanfodol sy’n golygu fod graddedigion yn y maes hwn yn hynod gyflogadwy.
Cofrestrwch am fwy o wybodaeth am Beirianneg Drydanol ac Electronig
Pam astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae ein cyrsiau gradd yn cynnig elfen ymarferol gref i'ch arfogi â'r sgiliau proffesiynol ac ymarferol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle.
- Mae ein cyrsiau wedi'u hysgogi gan thema gynaliadwyedd gref fel y gallwch werthfawrogi pwysigrwydd datrysiadau carbon isel ar gyfer ein byd yn y dyfodol a datblygu sgiliau priodol ar gyfer y farchnad ynni adnewyddadwy sy'n tyfu.
- Byddwch yn astudio modiwlau sy'n amrywio ar draws disgyblaethau ffiseg, cyfrifiadureg a mathemateg i roi sylfaen drylwyr i chi yn y wyddoniaeth sy'n sail i beirianneg.
- Byddwch yn dysgu pecynnau modelu fel COMSOL a Zemax sy’n sgiliau masnachol y mae galw mawr amdanynt yn enwedig wrth i ni symud tuag at sero net.
- Bydd gennych ddefnydd o labordai addysgu ac ymchwil sy’n llawn cyfarpar.
- Mae ein graddau ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant i sicrhau eich bod gam ar y blaen wrth ichi ymuno â’r farchnad swyddi pan fyddwch yn graddio.
- Byddwch yn cael eich addysgu gan staff a darlithwyr sy'n weithgar ym maes ymchwil sydd â chysylltiadau agos â diwydiant.
- Mae ein graddau yn cynnig cyfleoedd gyrfa rhagorol, felly gallwch ymuno â'r proffesiwn â’r wybodaeth a'r sgiliau priodol.