Cyfrifiadureg

Dim ond tyfu fydd perthnasedd Cyfrifiadureg wrth i'r byd ddod yn fwyfwy dibynnol ar ddatblygiadau technolegol. Mae Cyfrifiadureg bellach yn ffactor pwysig mewn peirianneg, gwyddoniaeth, teithio, masnach ac yn y cyfryngau hyd yn oed, sy'n golygu bod y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol y byddwch yn eu hennill trwy astudio gyda ni yn hynod berthnasol i ystod eang o ddiwydiannau gwahanol. 

BCS
  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym maes Cyfrifiadureg (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r Sunday Times 2022)
  • Ymhlith y 15 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym maes Cyfrifiadureg (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r Sunday Times 2022)
  • Yn y 5 uchaf yn y DU a’r ail yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Cyfrifiadureg (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)

Pam astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd â’r Dysgu a Bodlonrwydd Cyffredinol mewn Cyfrifiadureg (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • Mae mwyafrif ein graddau israddedig ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant. 
  • Byddwch yn defnyddio labordai Linux, MacOS a Windows pwrpasol wedi'u cysylltu gan weinyddion canolog, er mwyn cael manteisio ar feddalwedd a storfa ffeiliau a rennir mewn lleoliadau ar y campws a thu hwnt. 
  • Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â’r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd. 
  • Byddwch yn cael defnyddio offer robotig gan gynnwys Arduinos, robotiaid symudol a robotiaid hwylio. 
  • Cewch ymuno ag amrywiaeth o gymdeithasau myfyrwyr, gan gynnwys Cymdeithas y Gemwyr, clwb Roboteg a thîm Sailbot Aber. 
“Mae Cyfrifiadureg yn bwnc diddorol ac amrywiol iawn gyda phwyslais ar ystod eang o bynciau er enghraifft: peirianneg meddalwedd, datblygu gwefannau, rhwydweithio a chynllunio gyrfa. Mae'r cwrs yn ddifyr iawn a gellir ei deilwra ar gyfer dewisiadau a galluoedd unrhyw un.”
Oliver Roe Oliver Roe BSc Cyfrifiadureg
“Mae'r cwrs wedi bod yn wirioneddol ddiddorol ac yn werthfawr dros ben. Mae'r darlithwyr yn broffesiynol ac yn gymwynasgar ac mae'r cwrs yn cyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth am bynciau. Fel myfyriwr heb fath o brofiad blaenorol yn y maes roeddwn i braidd yn betrus pan ddeuthum i'r Brifysgol am y tro cyntaf, ond o fewn ychydig wythnosau roeddwn wedi dechrau gweithio ar brosiect heriol, ond un oedd yn rhoi boddhad. ”
Daniel William James Drave Daniel William James Drave BSc Cyfrifiadureg

Cyflogadwyedd

Mae cyfrifiadureg yn annog creadigrwydd ac ystod gyfan o sgiliau trosglwyddadwy y tu hwnt i sgiliau rhaglennu, gan gynnwys sgiliau datrys problemau, ymchwil, sgiliau technegol a gweithredu. Mae gradd mewn cyfrifiadura yn agor ystod eang o yrfaoedd TG, o ddatblygu cymwysiadau, dylunio gemau a dadansoddi systemau i ddylunio a datblygu gwefannau, ac mae'n ymestyn i lawer o sectorau, gan gynnwys lletygarwch, teithio, adwerthu, gweithgynhyrchu, y sector cyhoeddus a'r cyfryngau.        





Cyfleusterau

Mae gan yr Adran ystod eang o offer a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer ymchwil, sydd ar gael i fyfyrwyr ar eu blwyddyn olaf sy'n dewis prosiectau yn y meysydd ymchwil hyn. Mae’r rhain yn cynnwys labordy roboteg â chyfarpar da a labordy Systemau Deallus ar gyfer astudio roboteg gan gynnwys robotiaid humanoid, robotiaid ar gyfer archwilio'r gofod, robotiaid mordwyo, a robotiaid daearol ac awyrol ar gyfer llywio gweledol a mapio. Mae gennym hefyd labordy Realiti Estynedig sy'n arbenigo ar realaeth gymysg, sy'n cynnwys realiti rhithwir, estynedig ac amrywiol systemau olrhain mudiant.

Mewn rhai modiwlau, bydd y myfyrwyr yn cael defnyddio eu cyfarpar a neilltuir iddyn nhw eu hunain tra byddant yn astudio'r modiwl hwnnw, gan gynnwys micro-reolyddion Arduino a llwyfannau robotig bach. 

Ymchwil

Yn yr Adran mae pedwar grŵp ymchwil: Grŵp Rhesymu Uwch; Grŵp Biowybodeg a Bioleg Gyfrifiadurol; Grŵp Roboteg Deallus; a Grŵp Gweledigaeth, Graffeg a Delweddu. 

Mae pob grŵp yn ymchwilio ac yn datblygu technegau a defnyddiau ar systemau deallus ac anogwn gydweithio agos rhwng y grwpiau, gan gydlynu i lefel uchel gydag ymchwil yr Adran. 

Grŵp Ymresymu Datblygedig 

Mae’r Grŵp Ymresymu Datblygedig yn adnabyddus am ei waith arloesol ar ddiagnosis wedi’i awtomeiddio a dadansoddi methiannau, ac am ddyfeisio technegau niwlog-garw i fformiwleiddio a symleiddio modelau gwybodaeth.

Grŵp Bio-informateg a Bioleg Gyfrifiannol

Mae’r Grŵp Bio-informateg a Bioleg Gyfrifiannol yn cynnal ymchwil mewn meysydd fel dadansoddi data biolegol ar raddfa fawr, ffurfioli data biolegol, gwybodeg fiofeddygol, geneteg, fferyllogenomeg a bioleg systemau.

Grŵp Roboteg Ddeallusol

Mae’r Grŵp Roboteg Ddeallusol yn grŵp roboteg adnabyddus yn y DU, ac y mae’n rhan o rwydwaith Roboteg a Systemau Annibynnol y DU (EPSRC). Mae’r grŵp yn ymwneud â chonsortia ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol, sy’n ymdrin ag ystod eang o barthau: o’r tir, y môr, yr awyr a’r gofod yn ogystal â roboteg dan do. Mae’n canolbwyntio ar faterion meddalwedd a chaledwedd sy’n allweddol i "amgylcheddau digyfyngiad”.

Grŵp Gweledigaeth, Graffeg a Delweddu

Mae gan y Grŵp Gweledigaeth, Graffeg a Delweddu amrywiol ddiddordebau sy’n ymdrin â llawer agwedd ar greu a phrosesu data gweledol gan gynnwys dadansoddi a deall delweddau meddygol; ‘gweld’ cyfrifiadurol ar gyfer roboteg; realiti rhithiol i ymchwilio i’r blaned Mawrth; modelu gweld er mwyn deall canfyddiad pobl; a chymhwyso ‘gweld’ cyfrifiadurol ym meysydd bioleg y môr a bioleg planhigion.

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.