Ffiseg

Mae Ffiseg yn un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf a mwyaf sylfaenol, ond mae'n un sy'n dal i gyfrannu’n sylweddol i gymdeithas fodern, wrth i ddatblygiadau damcaniaethol fwydo i wyddorau newydd a meithrin technolegau modern.  

Wrth ymchwilio i'r cysyniadau gwyddonol sy'n sail i'n bydysawd, fe welwch sut mae ffiseg yn cael ei chymhwyso ar draws gwahanol ddisgyblaethau a sut y gall ei chyfraniad at ddatblygiadau newydd mewn technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg gael effaith ar gymdeithas gyfan a bod o fudd iddi.  

IOP
  • Yn y 15 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr mewn Ffiseg a Seryddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r Sunday Times 2023)
  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym maes Ffiseg a Seryddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r Sunday Times 2021)
  • Ar y brig yng Nghymru ac 2il yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r Sunday Times 2023)

Pam astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Dysgwyd Ffiseg yn Aberystwyth ers 150 o flynyddoedd, ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n dal i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb  
  • Mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau Ffiseg wedi'u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg 
  • Cewch eich dysgu gan arbenigwyr yn eu maes, a darlithwyr sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil, felly byddwch yn agored i'r syniadau a'r syniadau diweddaraf  
  • Byddwch yn meithrin sgiliau pwysig ar gyfer ymchwilio a dadansoddi data  
  • Ar ben hyn, byddwch yn ennill sgiliau cyfrifiadurol a mathemategol a fydd yn anhepgor ym myd gwaith  
  • Cewch gyfle i ymgymryd â phrosiect arbennig o'ch dewis eich hun o dan arweiniad arolygydd personol penodol er mwyn datblygu eich diddordebau arbenigol.  
“Mae Ffiseg bob yydd yn gwella eich dealltwriaeth o'r bydysawd a phopeth rydyn ni'n ei brofi. Mae gwyddonwyr angerddol yn eich hysbysu am eu cyfraniadau i wyddoniaeth sydd ar flaen y gad ym myd ffiseg. Rhennir eich amser rhwng cael profiad ymarferol mewn labordy gan ddefnyddio offer cyffrous gan gynnwys laserau, osgilosgopau a sbectromedrau, a darlithoedd a fydd yn eich ysbrydoli ac yn eich diddori. ”
Sarah Chandler Sarah Chandler BSc Ffiseg
“Rydw i wrth fy mod ag Astroffiseg oherwydd bod y bydysawd yn gamp ryfeddol o realiti, sy'n deillio o ddeddfau ffisegol natur. Mae’n gymysgedd cymhleth o egni, màs, disgyrchiant, a meysydd trydan a magnetig sy’n arwain at ein bywyd ni yn ogystal â'r galaethau hardd a welwn yn awyr y nos. Pwy na fyddai’n awyddus i astudio hynny? Mae dysgu am ddarlun mawr y bydysawd yn hytrach na golwg gyfyngedig ar broblemau dibwys ein bywyd bob dydd yn meithrin rhuddin mewn pobl ac yn fenter werth ymgymryd â hi.”
 Geoffrey Knott  Geoffrey Knott  BSc Astroffiseg
“Rydw i wrth fy modd â Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod. Mae strwythur y cwrs wedi'i gynllunio'n berffaith i roi syniad i chi am bob cangen ffiseg yn hytrach na golwg fanylach ar un gangen benodol. Mae'r modiwlau eu hunain yn eithaf anhygoel, yn astudio meysydd sy’n amrywio o atmosfferau planedol i'r tu mewn i'r haul, o strwythur yr atom yr holl ffordd i strwythur y galaethau.”
James Parker  James Parker  BSc Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod
“Mae Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod yn rhoi ystod wych o wybodaeth i chi, o sut mae'r Haul yn gweithio, i'r posibilrwydd o fywyd ar fydoedd eraill, a sut y gallem eu darganfod! Mae'n gwrs gwych yn ei gyfanrwydd - mae cymharu gwyddoniaeth y byd hwn â gwyddoniaeth bydoedd eraill yn astudiaeth wirioneddol arloesol!”
 Timothy Edward Andrew Powell  Timothy Edward Andrew Powell  BSc Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod

Cyflogadwyedd

Bydd gradd mewn Ffiseg yn eich darparu chi am gyrchfannau gyrfaol megis ffisegydd meddygol, technegydd labordy gwyddonol, ymarferydd amddiffyniad rhag pelydriad a gwyddonydd ymchwil.

Mae llwybrau gyfra eraill yn cynnwys datblygwr systemau, gwyddonydd datblygiad cynnyrch, awdur technegol neu feteorolegwr.

Mae rhai o'n cyrsiau ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant, sy’n rhoi'r cyfle i chi gael profiad gwaith gwerthfawr mewn sector perthnasol a chymhwyso'r theori yr ydych wedi'i dysgu ar eich cwrs i sefyllfaoedd a phrosiectau ymarferol. Bydd cwblhau eich lleoliad yn rhoi ystod amlwg o sgiliau profiadol a thechnegol i chi, a fydd yn eich gwneud yn fwy apelgar i gyflogwyr ar ôl graddio.

Byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy gan astudio am radd Ffiseg y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Dyma rai ohonynt:

  • sgiliau dadansoddi data ac ymchwil
  • sgiliau datblygedig cyfrifiadol a mathemategol
  • sgiliau meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithiol
  • gallu i ddelio gyda chysyniadau haniaethol
  • sylfaen mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • gallu i weithio’n annibynnol
  • sgiliau rheoli-amser a threfniadol gan gynnwys cyrraedd dyddiadau cau
  • gallu i fynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth mewn dull eglur a chyfundrefnus, ar ffurf lafar ac ysgrifenedig
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb.

Cyfleusterau

Ymhlith yr adnoddau ymchwil ceir:

  • Y Labordy Ffiseg Ddeunydd

Mae ein prif labordy Ffiseg Ddeunydd yn gartref i ystod o offeryniaeth nodweddu fel y gellir nodweddu deunyddiau yn optegol ac yn electronig. Defnyddir technegau sbectrosgopi yma, gan gynnwys Sbectrosgopeg Ffotoelectron Pelydr-X (XPS), Sbectrosgopi Uwchfioled (UPS), Diffreithio Electronau Egni Isel (LEED) a Sbectrosgopeg Raman, i hwyluso ein dealltwriaeth am ddeunyddiau newydd, gan werthuso eu priodweddau a'u perfformiad er mwyn rhoi hwb i ddatblygiadau technolegol mewn llawer o feysydd, o drafnidiaeth i beirianneg, gofal iechyd, seilwaith cyfathrebu a llawer mwy.

Efallai y bydd myfyrwyr israddedig yn gallu defnyddio’r cyfleusterau blaengar hyn yn rhan o'u prosiectau ymchwil mawr.

  • Labordy Nodweddu Deunydd

Mae'r labordy llawr gwaelod hwn yn gartref i ystod ychwanegol o offerynnau nodweddu, megis Microsgopeg Grym Atomig ac Ellipsometreg er mwyn astudio rhinweddau materol, megis cyfansoddiad, purdeb a strwythur. Ceir yma offer nodweddu dyfeisiau er mwyn cynnal ymchwiliadau yn y fan a’r lle ar ddyfeisiau megis ffotofolteg newydd.

Efallai y bydd myfyrwyr israddedig yn gallu defnyddio’r cyfleusterau blaengar hyn yn rhan o'u prosiectau ymchwil mawr.

  • Labordy Mater Meddal

Mae'r labordy hwn yn gartref i'n gwaith ar ffyrdd newydd o ddefnyddio nanoddeunyddiau meddal, megis polymer, wrth ddylunio strwythurau ffotonig, gyda threfn wedi’i hysgogi gan rym anghyflin mewn cyfryngau fisgo-elastig er mwyn cynhyrchu deunyddiau optegol.

Efallai y bydd myfyrwyr israddedig yn gallu defnyddio’r cyfleusterau blaengar hyn yn rhan o'u prosiectau ymchwil mawr.

  • Labordy Offeryniaeth y Gofod

Mae ein Labordy Offeryniaeth y Gofod, a adnewyddwyd yn ddiweddar, yn cefnogi ein hymchwil sy’n ymwneud ag archwilio'r gofod, tywydd y gofod ac arwynebau a deunyddiau’r planedau. Mae'r labordy yn gartref i weithfan rheoli teithiau i’r gofod, systemau optegol newydd a chydrannau robotig a ddatblygwyd yn Aberystwyth er mwyn archwilio'r gofod.

Efallai y bydd myfyrwyr israddedig yn gallu defnyddio’r cyfleusterau blaengar hyn yn rhan o'u prosiectau ymchwil mawr.

  • Labordy Ymchwil Analog Planedol

Mae gan y Labordy Ymchwil Analog Planedol ardal benodedig a ddefnyddir i brofi offer robotig a cherbydau planedol mewn amgylchedd sy’n ymdebygu i’r lleuad neu i blaned.

 

Adnoddau Dysgu:

Labordai dysgu arobryn sy'n darparu lle i ddysgu ffiseg arbrofol a sgiliau cyfrifiaduro mewn modd hyblyg ac ymarferol. 

Ymchwil

Ein nod yw cynnal ymchwil gydweithredol sy'n gystadleuol yn rhyngwladol mewn Ffiseg y Gofod, Ffiseg Defnyddiau a Ffiseg Cwantwm. Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil, yn ymwneud â phrosiectau sy'n amrywio o ddyfeisio deunyddiau newydd ac offerynnau newydd i deithiau planedol ac astudiaethau arloesol o weithgaredd yr haul. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.