Mae’r Adran Gwyddorau Bywyd yn ganolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n cynnig cyfleusterau unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr yn cynnal ymchwil ar enynnau a moleciwlau, organebau cyfan a’r amgylchedd.
Grŵp Ymchwil Ecolegol ac Esblygol
Mae Ymchwil Ecolegol ac Esblygol yn IBERS yn rhychwantu ecosystemau daearol, dŵr croyw a morol. Rydym ni’n cynnal ymchwil i ddŵr, priddoedd, planhigion ac anifeiliaid (infertebratau a fertebratau) a’u rhyngweithio. Rydym ni’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau ar draws graddfeydd amser a gofod i ymdrin â chwestiynau allweddol am y ffordd mae ecosystemau’n gweithio a sut maent yn gweithredu. Er bod gennym ddiddordeb yn y presennol, mae ein hymchwil yn estyn i’r dyfodol drwy edrych ar sut y bydd amrywiaeth eang o newidynnau o ran newid yn yr hinsawdd fel cynhesu, CO2, asideiddio’r cefnfor ac ymbelydredd uwch-fioled yn effeithio ar ecosystemau.
Caiff ein hymchwil ei integreiddio gydag addysgu ac rydym ni’n ystyried ein labordai a’r maes fel mannau hyfforddi. Mae’r canlynol ymhlith y meysydd rydym ni’n canolbwyntio arnyn nhw:
- pridd a’i rannau cyfansoddol
- ecoffisioleg planhigion a sut mae planhigion yn ymateb i bwysedd abiotig a biotig mewn cymunedau lled-naturiol
- y berthynas agos rhwng planhigion ac infertebratau, yn cynnwys algae morol a llysyddion
- sut mae anifeiliaid pori yn cynnwys da byw yn effeithio ar gymunedau planhigion
- natur cystadleuaeth a sut mae cymunedau planhigion ac anifeiliaid yn gweithio
- technegau ar gyfer gwneud lle i natur mewn strwythurau a saerniwyd ar yr arfordir.
Grŵp Ymchwil Genomau Planhigion a Bioleg Cromosomau
Mae’r grŵp hyn yn cynnal ymchwil amrywiol i fioleg gweiriau, grawn a chodlysiau. Rydym ni’n cymwyso dadansoddiadau genomig, sytogenetig a biowybodeg wrth gynhyrchu a dadansoddi ffenoteipiau planhigion cnydau newydd. Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion (NPPC) wedi’i lleoli yn IBERS ac fe’i defnyddir gan lawer o’n haelodau. Mae’n cynnig y llwyfannau ffenoteipio diweddaraf a’i nod yw cyflenwi datrysiadau ffenoteipio integredig ar gyfer rhywogaethau cnydau allweddol a model. Mae’n defnyddio technolegau arloesol i fesur perfformiad a ffisioleg planhigion ar raddfeydd gwahanol, o’r moleciwlaidd a’r cellol i lefel organ a phoblogaeth.
Mae’r grŵp hwn yn canolbwyntio ar:
- geneteg a genomeg gweiriau porthiant Lolium perenne (rhygwellt lluosflwydd) a Festuca pratensis (peiswellt)
- geneteg a genomeg cnwd trin ceirch hecsaploid (Avena sativa) a datblygu adnoddau arbrofol yn defnyddio perthynolion tetraploid a diploid
- ffylogeneteg foleciwlaidd Avena a Brachypodium spp
- sytogeneg foleciwlaidd adgyfuno meiotig a chyfansoddiad genom mewn amrywiol rywogaethau planhigion
- datblygu offerynnau cyfrifiannu ac adnoddau ‘biowybodeg ar gyfer bridio’ sy’n integreiddio canlyniadau ymchwiliadau genotypig a ffenotypig.
Grŵp Ymchwil Bioleg Ddyfrol, Ymddygiadol ac Esblygol
Mae’r grŵp hwn yn defnyddio ymagweddau rhyngddisgyblaethol at ddiddordeb sy’n uno: sut mae anifeiliaid yn addasu i’w hamgylchedd. O fewn y nod hwn rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau maes a labordy i ymchwilio i gwestiynau allweddol mewn ecoleg, esblygiad ac ymddygiad poblogaethau gwyllt. Rydym ni’n cyfuno arbenigedd a gweithgareddau ar draws y grŵp i ddarparu addysgu o ansawdd uchel yn seiliedig ar ymchwil.
Mae aelodau o’r grŵp yn edrych ar y canlynol:
- plastigrwydd ymddygiadol ac ecoleg poblogaeth infertebratau
- esblygiad organebau dyfrol a’u parasitiaid
- bioleg a geneteg poblogaeth opisthobranchia
- ymddygiad, cân adar ac addasu trefol
- ymwybyddiaeth a rheolaeth niwroffisegol ymddygiad anifeiliaid
- niwroetholeg infertebratau
- esblygiad bioamrywiaeth ddyfrol a chysylltedd poblogaeth
- rhythmau circadaidd a circatidaidd mewn organebau morol.