Bioleg Ddynol ac Iechyd
Mae Gwyddonwyr Biofeddygol yn astudio swyddogaeth y corff dynol ac yn cymhwyso eu gwybodaeth wyddonol i atal a thrin cyflyrau meddygol.
Yn Aberystwyth, gallwch astudio cwricwlwm eang o ddisgyblaethau biolegol i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o'r prif amodau sy'n dylanwadu ar iechyd dynol yn yr 21ain ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys ffisioleg, biomecaneg, microbioleg, imiwnoleg, geneteg a gwyddor ymarfer corff, a bydd pob un o’r rhain yn rhoi gwerthfawrogiad i chi o sut mae diet, ynghyd â gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff rheolaidd, yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cynnal iechyd a lles.
Pam astudio Bioleg Ddynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Bydd ein cyfuniad unigryw o bynciau yn sicrhau bod gennych ddealltwriaeth amlddisgyblaethol o iechyd dynol, gan gynnwys newid ymddygiad a ffordd o fyw.
- Rydym yn rhoi ffocws arbennig ar sgiliau labordy a fydd yn eich paratoi ar gyfer gwaith yn y gwyddorau biofeddygol.
- Bydd gennych fynediad i labordai ymchwil ac addysgu helaeth gyda'r offer diweddaraf, gan gynnwys cyfleusterau bioddelweddu, dilyniannu DNA trwybwn uchel, proteomeg, metabolomeg a llwyfannau sbectrosgopig.
- Byddwch yn cael defnydd o'r offer a'r labordai ffisiolegol, biomecanyddol a seicolegol diweddaraf.