Amaethyddiaeth
Mae amaethyddiaeth fodern yn wynebu'r dasg o fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n tyfu, a gwneud gyda llai o adnoddau drwy ddefnyddio technegau sy'n amddiffyn yr amgylchedd ac sy'n lliniaru'r newid yn yr hinsawdd. Bydd ein cyrsiau Amaethyddol yn eich paratoi i allu mynd i'r afael â'r heriau hyn. Ymdrinnir â phob agwedd ar amaethyddiaeth a systemau cynhyrchu amaethyddol, a rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o'r dirwedd ffermio newidiol.
Mae'r diwydiant amaethyddol yn dod yn fwyfwy amrywiol ac yn canolbwyntio ar dechnoleg ac mae cyfleoedd sylweddol i raddedigion amaethyddol hynod fedrus a brwdfrydig wneud gwahaniaeth a sicrhau gyrfaoedd hynod lwyddiannus. P'un a ydych chi'n rhywun sydd â chysylltiadau hirsefydlog â'r diwydiant yn barod neu os ydych yn newydd-ddyfodiaid brwdfrydig sydd ag awch am amaethyddiaeth, mae'r cyfleoedd hyn yn agored i chi. Caiff pob unigolyn sy'n diddori mewn Amaethyddiaeth deimlo'n gartrefol yn Aberystwyth.
Pam astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae cysylltiad wedi bod rhwng Prifysgol Aberystwyth ac astudiaethau ar y tir ers dros 140 o flynyddoedd!
- Byddwch yn cael eich dysgu gan arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes sy’n arbenigo mewn bob math o agweddau ar systemau cynhyrchu da byw a chnydau, yn ogystal â rheoli busnes fferm, technoleg trachywiredd amaethyddol a'r cydgysylltiad amaethyddiaeth-amgylcheddol. Mae’r rhain yn cynnwys staff o’r Arolwg Busnes Ffermydd yng Nghymru, rhaglenni bridio glaswellt a chnydau Aberystwyth, y Ganolfan Ffenomeg Genedlaethol a Chanolfan Rhagoriaeth Aberystwyth ar gyfer Twbercwlosis Buchol.
- Byddwch yn ymweld â ffermydd a busnesau sy’n arloesi ar ben blaen y diwydiant ac yn dod i gysylltiad â’r datblygiadau a’r farn ddiweddaraf yn y diwydiant amaethyddol.
- Byddwch yn cael cyfle i wneud blwyddyn o brofiad gwaith gyda chefnogaeth tiwtor er mwyn datblygu sgiliau a gwella eich rhagolygon gyrfaol.
- Byddwch yn cael eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys tasgau cymhwysol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant. Bydd y tasgau’n datblygu eich gwybodaeth, eich bywyd personol a'r sgiliau technegol sy'n berthnasol i yrfa yn y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Bydd galw am unigolion fel chi.