Sut mae cofrestru ar gyfer cymorth lles?

Gallwch gofrestru ar gyfer cymorth lles drwy lenwi ein ffurflen gofrestru ar-lein

Beth ddylwn i ei wneud mewn argyfwng?

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y gwasanaethau brys drwy ddeialu 999. Mae gennym hefyd dîm cymorth argyfwng ar gael — darperir manylion ar ein Tudalen Cymorth mewn Argyfwng.

Sut mae cofrestru gyda'r meddyg teulu?

I gofrestru gyda'r meddyg teulu, gallwch ymweld â derbynfa unrhyw feddyg teulu yn Aberystwyth. Bydd angen i chi ddod â'ch ID a phrawf o’ch cyfeiriad. Mae ffurflenni cofrestru hefyd ar gael ar-lein ar wefan y meddyg teulu.

O ble ydw i'n cael presgripsiynau?

Ar ôl i chi gofrestru gyda meddyg teulu, gellir cael presgripsiynau o unrhyw fferyllfa. Mae rhai meddygon teulu yn cynnig gwasanaeth presgripsiwn electronig, felly gellir anfon eich presgripsiynau'n uniongyrchol at fferyllfa o'ch dewis.

Sut mae codi pryder ynglŷn â rhywun?

Os ydych chi'n poeni am les rhywun, gallwch gyflwyno eich pryder drwy ein ffurflen codi pryderon ar-lein.

Pa wasanaethau mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn eu cynnig?

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn darparu ystod o gymorth, gan gynnwys cyngor iechyd meddwl a sesiynau cwnsela un ar y tro. Rydym hefyd yn cynnig arweiniad ar ddefnyddio gwasanaethau cymorth allanol.

A allaf fanteisio ar wasanaethau cwnsela?

Gallwch, mae gwasanaethau cwnsela ar gael i bob myfyriwr. Yn y brifysgol rydym yn cynnig sesiynau cwnsela 'un ar y tro'. Gallwch gael mynediad atynt drwy gofrestru ar-lein.

Cwestiynau Cyffredin