Cwestiynau Cyffredin

Sut alla i estyn fy visa myfyriwr?

Gall y Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol roi cyngor a chymorth i chi i estyn eich fisa myfyriwr yn y DU. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ar ein tudalen 'Fisa Myfyrwyr – gwneud cais yn y DU'.

Rwyf wedi methu fy nghwrs; sut fydd hyn yn effeithio ar fy fisa?

Gallwch drafod eich opsiynau fisa trwy wneud apwyntiad gyda'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol. E-bost: visaadvice@aber.ac.uk.

Ydw i'n cael newid fy nghwrs?

I gwrdd ag amodau astudio eich fisa myfyriwr, fel arfer mae'n rhaid i chi astudio'r cwrs y rhoddwyd y Cadarnhad Derbyn i Astudio ar ei gyfer. I wirio a oes gennych hawl i newid eich cwrs, cysylltwch â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, trwy e-bostio visaadvice@aber.ac.uk.

Faint o oriau ydw i’n cael gweithio bob wythnos ar fisa myfyriwr?

Cyfeiriwch at dudalennau Diogelu eich fisa myfyriwr : Amodau gwaith i gael gwybodaeth am faint o oriau y caniateir i chi weithio.

Pa fath o waith ydw i'n cael ei wneud ar fisa myfyriwr?

Mae rhai mathau o waith na ddylech ymgymryd ag ef, gan gynnwys hunangyflogaeth, gweithgarwch busnes, chwaraewr proffesiynol, diddanwr, a swydd amser llawn barhaol.

Rwy'n poeni ynglŷn â beth y byddaf yn ei wneud ar ôl cwblhau fy astudiaethau, sut allwch chi fy helpu?

Mae'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnal sesiynau cynghori rheolaidd ar Fisâu Ôl-astudio. Anfonir y manylion trwy e-bost i gyfrifon myfyrwyr.  Mae croeso i chi hefyd wneud apwyntiad gyda'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, trwy e-bostio visaadvice@aber.ac.uk, os yw'n well gennych gael cyngor unigol.