Amdanom ni

Mae'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn darparu cyngor mewnfudo arbenigol, yn unol â Rheolau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, ar lwybrau fisâu astudio i ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr rhyngwladol sy'n dod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Er enghraifft, gallai'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol:-

  • Roi cyngor ar sut i wneud cais am fisa myfyriwr 'o fewn' neu 'y tu allan' i’r DU.
  • Rhoi cyngor i ddibynyddion.
  • Rhoi cyngor fisa ymwelydd i fyfyrwyr sy'n dod ar gwrs o lai na chwe mis.
  • Helpu myfyrwyr i ddiogelu eu statws mewnfudo drwy ddarparu cyngor ar:
    • dynnu'n ôl o astudiaethau
    • absenoldebau awdurdodedig
    • newid cynllun gradd
    • ychwanegu astudio dramor neu gyfnod o leoliad gwaith
    • amodau gwaith.
    • ailadrodd y flwyddyn ac ail-sefyll
    • estyniadau PhD
  • Cynorthwyo myfyrwyr yr AEE, myfyrwyr o'r Swistir ac aelodau o'r teulu i ddiogelu eu statws o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
  • Darparu gwybodaeth am opsiynau fisa ôl-astudio ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dilyn astudiaethau pellach neu weithio yn y DU.
  • Darparu cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ar ystod eang o faterion.

Mae cyngor mewnfudo a ddarperir gan y Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn cael ei reoleiddio gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo ac felly mae'n rhaid iddo fodloni safonau penodol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn canllawiau fisa clir.

Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn anfeirniadol, ac yn rhad ac am ddim.

Mae'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol wedi'i leoli yn ystafell 1.62, y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr.  Mae croeso i chi wneud apwyntiad i weld y Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol drwy e-bostio visaadvice@aber.ac.uk