Gwasanaeth Cymorth a Chyngor Fisâu
Mae'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol yn darparu cyngor mewnfudo arbenigol, yn unol â Rheolau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, ar lwybrau fisâu astudio i ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr rhyngwladol sy'n dod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’u dibynyddion.
Pa gymorth ydyn ni’n ei gynnig?
Rhoi cyngor ar sut i wneud cais am fisa myfyriwr 'o fewn' neu 'y tu allan' i’r DU.
Rhoi cyngor i ddibynyddion deiliaid fisa myfyrwyr.
Rhoi cyngor ar ganiatâd fisa Ymwelydd i fyfyrwyr sy'n dod i astudio cwrs sy’n para llai na chwe mis.
Diogelu statws mewnfudo myfyrwyr rhyngwladol yn y DU drwy ddarparu cyngor ar:
- dynnu'n ôl o astudiaethau,
- absenoldebau awdurdodedig,
- newid cynllun gradd,
- ychwanegu astudio dramor neu gyfnod o leoliad gwaith,
- amodau gwaith,
- hawliau gweithio yn y Deyrnas Unedig,
- estyniadau fisa – myfyrwyr PhD, ailadrodd/ailsefyll, myfyrwyr cyn-sesiynol,
Cynorthwyo myfyrwyr yr UE/AEE a myfyrwyr o'r Swistir i ddiogelu eu statws o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Darparu gwybodaeth am opsiynau fisa ôl-astudio i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn astudiaethau pellach neu weithio yn y DU.
Darparu cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ar ystod eang o faterion.