Ynghylch TrACE Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddatblygu i fod yn brifysgol sy'n ystyriol o drawma.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i fod yn brifysgol sy'n ystyriol o drawma. Rydym yn gweithio ar y cyd â Hyb ACE Cymru, sefydliad ledled Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru i allu gweithio gyda sefydliadau a phobl ledled Cymru. Eu nod yw datblygu i fod yn genedl sy'n ystyriol o drawma ac sy'n deall effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs). Mae Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o'r mudiad cenedlaethol hwn, sydd wedi denu sylw byd-eang, wrth ymdrechu i fod yn arweinydd sector fel prifysgol sy'n ystyriol o drawma.
Mae Aberystwyth yn lle y mae myfyrwyr a staff yn dewis byw a gweithio ynddo am sawl rheswm. Mae’r rhesymau’n cynnwys eu bod eisiau teimlo eu bod nhw’n ddiogel, eu bod nhw'n perthyn a bod y gymuned yn eu cefnogi ac yn eu cynnwys. Gall Aberystwyth adeiladu ar yr amgylchedd tosturiol, empathig, caredig sydd gennym, fel ein bod, ym mhopeth â wnawn, yn cydnabod y gall unrhyw un brofi trallod a thrawma yn eu bywydau. Ar adegau efallai y bydd angen mwy o gymorth arnom i oresgyn hyn. Bydd pobl yn dewis byw, astudio a gweithio yma os ydym yn adeiladu cymuned sy'n helpu ei gilydd ar adegau pan fydd angen mwy o gymorth arnom i oresgyn yr heriau yn ein bywydau.
Mae Hyb ACE Cymru wedi creu animeiddiad byr i gyfleu hanfod yr hyn y mae bod yn ystyriol o drawma yn ei olygu.