Hyfforddiant TrACE

Yn dilyn ein hunanasesiad, mae'r Grŵp Llywio wedi datblygu strategaeth hyfforddi gymunedol gyfan ym mis Gorffennaf 2024. Rydym bellach yn ymgymryd â'r broses o integreiddio hyfforddiant TrACE i'n hyfforddiant presennol, a hefyd yn datblygu rhywfaint o hyfforddiant mewnol trwy  ein Gwasanaethau Myfyrwyr a chomisiynu rhywfaint o hyfforddiant allanol. Wrth i hyfforddiant newydd gael ei gynnig, bydd yn ymddangos ar fewnrwyd ein Staff a'n Myfyrwyr, Fy Aber. Gall timau Prifysgol Aberystwyth gysylltu â thîm TrACE i drafod ein gallu i ddarparu hyfforddiant sydd wedi'i deilwra i'w hangenion, drwy gyslltu ar trace@aber.ac.uk