Mae Help Fan Hyn
Gall Prifysgol fod yn gyfnod cyffrous, ond gall fod yn heriol hefyd. Does dim rhaid i ti ddelio ag e’ ar dy ben dy hun.
Mae help fan hyn
Mae sawl ffordd i ti gael cymorth a chyngor:
Cymorth 1:1
Gallwn gynnig apwyntiadau 1-i-1 gyda’n Harbenigwyr Iechyd Meddwl neu Gynghorwyr i siarad am dy anawsterau presennol.
Llenwa’r ffurflen gofrestru ar-lein i drefnu apwyntiad. Bydd hyn yn helpu'r ymarferydd i wybod mwy am y sefyllfa a nodi a oes angen i ti siarad ag Arbenigwr neu Gwnselydd Iechyd Meddwl. Byddi di wedyn yn gallu trefnu slot addas. Gallwn gynnal pob sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein, ti piau’r dewis.
Help os oes gen ti Gyflwr Iechyd hirdymor
Os oes gen ti Gyflwr Iechyd hirdymor galli di gael cyngor gan y Gwasanaeth Hygyrchedd. Gallant roi cyngor ar yr amrywiaeth o opsiynau cymorth sydd ar gael. Cer i’n tudalennau gwe Hygyrchedd am ragor o wybodaeth. Galli di hefyd anfon e-bost atom yn hygyrchedd@aber.ac.uk neu ein ffonio ar 01970 621761 / 622087
Materion ariannol
Does dim byd sy’n rhy fawr nac yn rhy fach. Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol, ni fyddi’n cael dy feirniadu ac mae’n rhad ac am ddim.
I drefnu apwyntiad gyda chynghorydd, anfona e-bost at: student-adviser@aber.ac.uk
Poeni am rywun arall?
Galli roi gwybod i ni os wyt ti’n pryderu ynglŷn â rhywun arall. Llenwa’r ffurflen mynegi pryderon, a bydd aelod o staff yn cysylltu a ti..
Adnoddau arlein
Mae cymorth a chyngor amrywiol ar gael ar-lein o deunyddiau, dolenni defnyddiol, apiau, a platfformau ar y we i sesiynau hyfforddi sy'n cyd-fynd ag ein gwasanaeth. Mae mwy o wybodaeth amdanyn nhw yn ein thaflen Adnoddau.
Adrodd a Chymorth
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi profi ymosodiad, aflonyddu neu ymddygiad annerbyniol arall gallwch roi gwybod amdano yma. Gellir gwneud adroddiadau yn ddienw.