Oriau Agor Gwyliau'r Gaeaf
Bydd y Gwasanaethau Myfyrwyr yn cau ddydd Gwener 20 Rhagfyr am 4:30yp. Byddwn yn ail-agor am 9:00yb ddydd Iau yr 2il o Ionawr 2025.
Ewch i’n tudalennau gwe i gael gwybod sut y gallwch chi gysylltu â ni - Manylion Cyswllt : Gwasanaethau i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth
Cael cymorth brys yn ystod y gwyliau:
Diogelwch 24/7:
Mae Tîm Diogelwch y Brifysgol yn Nerbynfa’r Campws ac maent wrth law i gynorthwyo 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn, ar y campws ac oddi arno.
Ffôn: 01970 622649 neu 07889 596220
E-bost: security@aber.ac.uk
Diogelwch: Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd, Prifysgol Aberystwyth
Cymorth Lles:
Os oes gennych bryderon uniongyrchol am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch eraill, defnyddiwch y cysylltiadau isod i gael cymorth brys:
Eich meddyg teulu lleol, neu wasanaeth tu allan i oriau meddyg teulu. Ffoniwch eich meddygfa ac fe gewch eich cyfeirio.
- Rhif Ffôn Meddygfa Padarn: 01970 624545
- Rhif Ffôn Meddygfa'r Llan: 01970 624855
- Rhif Ffôn Grŵp Meddygol Ystwyth: 01970 613500
Ewch i'ch Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys leol yn Ysbyty Bronglais os ydych chi yn Aberystwyth.
Mae diogelwch safle 24/7 Aberystwyth hefyd yn cynghori, os oes argyfwng, y dylech ffonio 999. Os yw'r gwasanaethau brys yn anfon uned ymateb, dylech hefyd hysbysu diogelwch y safle ar naill ai 01970 622649 neu 07889 596220 i roi gwybod iddynt beth sy'n digwydd.
Cymorth iechyd meddwl
Adferiad: Mae'r noddfa, sydd wedi'i lleoli yn Aberystwyth, yn darparu cymorth y tu allan i oriau i bobl sy’n dioddef argyfwng iechyd meddwl. Ffôn: 01970 629897. E-bost: ceredigionsanctuary@adferiad.org
Papyrus: Mae Papyrus yn darparu cyngor atal hunanladdiad cyfrinachol 24/7. Testun: 88247. Ffôn: 0800 068 4141. E-bost: pat@papyrus-uk.org
Shout: Defnyddiwch Shout, gwasanaeth negeseuon testun cyfrinachol 24/7 am ddim pan fyddwch chi'n ofidus. Anfonwch y gair ‘Shout’ drwy neges destun at 85258
CALL: Ffoniwch CALL, Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru, am gymorth emosiynol cyfrinachol a gwybodaeth am iechyd meddwl, ar agor 24/7. Ffôn: 0800 132 737
Samaritans: Cysylltwch â'r Samaritans i gael rhywun i wrando arnoch heb feirniadaeth, ar agor 24/7. Ffôn: 116 123 neu 0300 123 3011 ar gyfer y Llinell Gymraeg. E-bost: jo@samaritans.org
CalmHarm: Efallai y bydd yr Ap CalmHarm yn ddefnyddiol wrth reoli’r awydd i hunan-niweidio.
Cymorth Trais Rhywiol a Cham-drin Domestig
New Pathways: Maent yn darparu cymorth drwy eu Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol 24/7. Ffôn: 01685 379310 neu 074234 37020 am gymorth y tu allan i oriau. E-bost: enquiries@newpathways.org.uk
West Wales Domestic Abuse: Maent yn darparu gwasanaeth cyfrinachol 24/7 am ddim ledled Ceredigion. Ffôn: 01970 625585
Live Fear Free Helpline: Llinell gymorth 24/7 awr am ddim. Testun: 07860 077333. Ffôn: 0808 80 10 800. E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Yn olaf, gan yr holl dîm yn y Gwasanaethau Myfyrwyr, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.