gyrfaoeddABER a Gweithgareddau

gyrfaoeddABER yw’ch porth ar-lein i’n holl wasanaethau a gweithgareddau, a llawer mwy, megis:

  • Rhaglen o weithgareddau gan gyflogwyr – archebwch le ar y porth
  • Cyfres gynhwysfawr o weminarau datblygu gyrfa a sgiliau – archebwch le ar y porth
  • Cronfa ddata o dros 7,000 o gyfleoedd gwaith o bob lliw a llun led-led y byd
  • Apwyntiadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
  • System ymholiadau i ymateb i’ch holl gwestiynau
  • Cynlluniau blwyddyn mewn gwaith, integredig ai peidio, a lleoliadau
  • Adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu i ddewis a chynllunio’ch gyrfa

Mewngofnodwch wrth ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol. Os ydych wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, gallwch parhau i ddefnyddio gyrfaoeddABER. Welwch ein dudalen Graddedigion am fwy o manylion ar sut i gofrestru ar gyfer gyrfaoeddABER.

Cewch fraslun byr o’r system gyrfaoeddABER ar ein fideo .

Bellach mae’r mwyafrif o’n gweithdai yn cael eu cynnig fel gweminarau, boed rheiny’n fyw neu wedi eu recordio, gan gynnwys recordiadau o bigion o’n gweminarau byw yn dilyn rhai o’r sesiynau hynny.  Gwelwch beth sydd ar gynnig isod, a weler ein cylchlythyr misol hefyd am y digwyddiadau diweddaraf.

Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau - Byw

Gweithdai a Gweminarau Gyrfa a Sgiliau 2024/25

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu cyfres o weithdai'n fyw (drwy gyfrwng Saesneg) i hybu eich sgiliau cyflogadwyedd. Hyd pob gweithdy yw tua 30 munud gyda sesiwn holi ac ateb 10 munud. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle ar www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER

Gwanwyn 2025

Gall y dyddiadau a’r amseroedd newid felly cofiwch edrych ar gyrfaoeddABER i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i archebu'ch lle.

30/01/2025  Ffeindio swydd rhan-amser
03/02/2025  Llwyddo mewn cyfweliadau (Yn y Gymraeg)
05/02/2025 Defnyddio eich Blwyddyn Gap i roi hwb i'ch Sgiliau a'ch Rhagolygon Gyrfa
07/02/2025 Archwilio opsiynau astudio ôl-raddedig
10/02/2025 Llwyddo mewn cyfweliadau
19/02/2025 Gwybod Eich Cyflogwr – Dewch o Hyd i’r Ffit Gorau i Chi!

20/02/2025

Creu Proffil LinkedIn Llwyddiannus
24/02/2025 Llwybrau Graddedigion: Canllaw i Swyddi a Chynlluniau i Raddedigion
26/02/2025 Adeiladu eich CV trwy Brofiad Gwaith: Canllaw i Sefyll Allan
27/02/2025 Ehangu eich gorwelion - Gweithio/astudio dramor
10/03/2025 Creu Proffil LinkedIn Llwyddiannus (Yn y Gymraeg)
12/03/2025 Visa llwybr graddedig ac opsiynau gwaith ôl-astudio
17/03/2025 Dod o hyd i swydd yn y Sector Gwyrdd
18/03/2025 Sut i ysgrifennu datganiad personol
25/03/2025 Ysgrifennu CV da graddedig (Yn y Gymraeg)
27/03/2025 Ysgrifennu CV da graddedig
31/03/2025 Popeth am Ganolfannau Asesu: Beth i'w Ddisgwyl a Sut i Lwyddo
04/03/2025 Defnyddio eich Blwyddyn Gap i roi hwb i'ch Sgiliau a'ch Rhagolygon Gyrfa
29/04/2025 Ffeindio Swydd Haf
06/06/2025 Visa llwybr graddedig ac opsiynau gwaith ôl-astudio

Recordiadau Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau

Cynigiwn gyfres o weminarau wedi eu recordio fel y gallwch cael gafael arnynt pan fo hynny'n gyfleus i chi.  Cysylltwch â ni os hoffech gael mynediad i recordiad

Weminarau 2024

Ysgrifennu CV da i raddedigion - Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ysgrifennu CV a defnyddio CareerSet, gwasanaeth cynghori wedi ei deilwra i helpu’r rhai sy’n ceisio gwaith i raddio'n uwch mewn meddalwedd recriwtio.

Defnyddio LinkedIn - Bydd y sesiwn hon yn mynd â chi drwy'r broses o adeiladu eich proffil LinkedIn a dangos sut i ddefnyddio LinkedIn i ddatblygu eich rhwydwaith proffesiynol, cysylltu â chyflogwyr ar-lein a dod o hyd i gyfleoedd gwaith.

Mynychu Ffair Yrfaoedd - Mewnwelediad i sut y gallwch wneud y gorau o ffair yrfaoedd.

Cynllun BMG - Darganfyddwch fwy am ein Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith

Astudiaethau Uwchraddedig - Mae'r sesiwn hon yn cynnig gwybodaeth ac yn ymchwilio i’r rhesymau dros astudio ar lefel Meistr ac yn gofyn sut mae hyn yn cyd-fynd â’ch dyheadau chi ar gyfer eich gyrfa. Bydd canllawiau ymarferol hefyd yn cael eu rhoi i’ch helpu â’r broses o ymgeisio.

Interniaethau, Profiad Gwaith a Gweithio Dramor dros yr Haf - Chwilio am brofiad gwaith? Ymunwch â'r gweminar hwn i gael cipolwg ar y camau y gallwch eu cymryd i ddod o hyd i brofiad gwaith perthnasol, ac i gael awgrymiadau a chyngor ar ganfod adnoddau a defnyddio'ch rhwydwaith.

Defnyddio GyrfaoeddABER -mewnwelediad i borth ABERgyrfaoedd a sut y gallwch ei ddefnyddio.

 

Sesiynau gyda Chyflogwyr

Digwyddiadau Cyflogwyr

Mae mynychu digwyddiad cyflogwr yn ffordd ardderchog o gael gwybodaeth am fyd gwaith yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae hefyd yn gyfle amhrisiadwy i feithrin eich hyder wrth gwrdd â chyflogwyr, a datblygu sgiliau pwysig megis ymwybyddiaeth fasnachol a rhwydweithio. Mae llawer o wahanol fformatau digwyddiadau, a rhywbeth i bawb!

Os ydych yn fyfyriwr neu'n raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ewch i adran 'digwyddiadau' gyrfaoeddABER yn rheolaidd i gael manylion am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Entreprenwriaeth a Menter

Erioed wedi ystyried cychwyn busnes eich hunan?  

Heb ystyried gallai hunan-gyflogaeth fod yn opsiwn?

Fe synnech faint o sectorau gwaith sydd bellach yn chwilio am bobl sy'n fodlon fod yn fwy creadigol yn y modd maent yn gweithio.  Mae gweithio'n llawrydd yn opsiwn naturiol erbyn hyn, ac o fewn galwediagaethau tu hwnt i'r celfyddydau creadigol a pherfformio traddodiadol, megis cyfrifiadureg, peirianneg, yr amgylchfyd, gwyddorau anifeiliaid a cheffylau, addysg, ieithoedd modern, ymchwil, a llawer mwy. 

Cewch llawer mwy o wybodaeth am weithredu mewn dull entreprenwraidd ac yn fentergarol, a'r gefnogaeth sydd ar gynnig ichi i wenud hyn, ar ein tudalen we AberPreneurs.