Gwasanaeth Cymorth o ran Trais Rhywiol, Aflonyddu a Chamymddwyn
Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Mae'r Gwasanaeth Cymorth o ran Trais Rhywiol, Aflonyddu a Chamymddwyn yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ar waith i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan unrhyw fath o gamymddwyn neu drais rhywiol. Nod y gwasanaeth yw darparu lle diogel, cefnogol, lle gall myfyrwyr gael gafael ar gymorth, teimlo eu bod yn cael gwrandawiad ac ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm o Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol (SVLOs) sydd yno i gefnogi myfyrwyr, beth bynnag fu eu profiad nhw – p’un a yw'r camymddygiad neu'r trais rhywiol wedi digwydd yma yn Aberystwyth ynteu rhywle arall neu yn ddiweddar ynteu rhywbryd yn y gorffennol.
Fe fyddan nhw'n trin pawb â sensitifrwydd a pharch. Bydd unrhyw ffordd rydych chi'n dewis bwrw ymlaen yn cael ei pharchu'n llawn. Bydd y tîm yn eich cefnogi ar ba lwybr bynnag sy'n gweithio orau ichi. Byddan nhw’n ymdrin â'ch datgeliad yn gyfrinachol ac yn parchu’ch penderfyniadau – maen nhw yma i wrando arnoch chi a'ch cefnogi chi. Maen nhw'n dîm sy'n cael ei arwain gan oroeswyr, sy'n golygu y byddan nhw'n gwrando ac yn eich helpu i benderfynu beth sydd angen arnoch chi wrth symud ymlaen. Fyddan nhw ddim yn gwneud ichi roi gwybod i'r heddlu os nad dyna rydych chi ei eisiau. Fyddan nhw ddim yn gwneud ichi rannu unrhyw fanylion os nad ydych chi'n barod i wneud hynny. Gallan nhw helpu os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch astudiaethau a/neu agweddau eraill ar eich profiad myfyriwr, a gallan nhw siarad drwy'r gwahanol opsiynau cymorth sydd ar gael ichi.