Cydsyniad rhywiol
Cyflwyniad:
Cydsyniad sy'n dod gyntaf; dyma gonglfaen perthnasoedd agos-atoch parchus ac iach. Yn fyr, ystyr cydsyniad yw sicrhau bod caniatâd neu gymeradwyaeth i rywbeth yn cael ei sicrhau cyn ichi ddilyn trwodd. Edrychwch ar y tudalennau Pause, Play, Stop i gael gwybodaeth ryngweithiol ynghylch cydsyniad. Mae'n bosib y bydd yr ymgyrch ddiweddar 'Awkward Moments' hefyd yn adnodd defnyddiol i'w wylio.
Cyfathrebu yw’r allwedd:
Mae siarad â'ch gilydd yn eich helpu i ddeall beth yn union mae pob un ohonoch yn gyffyrddus neu’n anghyffyrddus ag ef; mae gan bawb ffiniau gwahanol, ac mae hynny'n iawn, ond yn rhywbeth i'w gofio bob amser.
Does dim rhaid i gyfathrebu ddigwydd ar lafar; cadwch lygad am iaith y corff, cyn ac yn ystod gweithgaredd rhywiol. Er enghraifft, os bydd rhywun wedi rhewi, yn ddisymud neu os nad yw fel pe bai’n ymateb ar lafar mewn modd brwdfrydig, maen nhw'n annhebygol o fod yn mwynhau eu hunain ac mae angen ichi holi i weld a ydyn nhw am barhau neu beidio.
Peidiwch â chymryd pethau’n ganiataol
Dim ond oherwydd eich bod chi yn mwynhau'r sefyllfa, dyw hynny ddim yn golygu bod eich partner yn mwynhau hefyd. Cofiwch nad yw pornograffi’n ddisgrifiad cywir, mae'n weithred sydd wedi’i gorliwio yn aml, gyda boddhad ar unwaith. Mae rhyw go iawn a chydsyniad go iawn yn cymryd amser ac ymdrech, a dyna pam mae angen ichi ofyn cyn gweithredu.
Os na fyddan nhw'n dweud 'ie', os ydyn nhw’n oedi wrth ymateb neu’n dangos unrhyw signalau eraill sy'n awgrymu nad ydyn nhw'n mwynhau, stopiwch beth rydych chi'n ei wneud. Gallai ymateb anghynnes neu hyd yn oed niwtral awgrymu eu bod nhw am i'r weithred fod drosodd cyn gynted â phosibl, sy'n awgrymu nad ydyn nhw’n cael profiad pleserus.
Pleser nid Pwysau
Dylai rhyw fod yn brofiad llawn hwyl a mwynhad, ond efallai bod rhai pobl yn fwy agored i niwed o ran gweithgaredd rhywiol. Mae'n bwysig bod yn amyneddgar, a pheidiwch â rhoi pwysau ar eich partner i wneud dim byd. Mae llu o resymau y gallai rhywun ddymuno symud yn arafach. Er enghraifft, efallai mai dyma’r tro cyntaf erioed, neu eu tro cyntaf gyda pherson gwahanol, neu efallai eu bod nhw wedi cael profiad rhywiol gwael o'r blaen.
Mae gofyn cwestiynau a gwneud gosodiadau yn ffordd dda o sicrhau bod eich partner yn dal i fwynhau ac yn hapus ichi barhau; gall y rhain fod mor syml ag "Ydy hyn yn iawn?", "Wyt ti'n hoffi hynny?", "Dwed wrtha i am stopio neu arafu os bydd unrhyw beth dw i'n ei wneud yn anghyffyrddus." Efallai na fydd rhywun sy'n teimlo gorfodaeth, neu’n teimlo eu bod nhw wedi’u dylanwadu i mewn i weithgaredd rhywiol yn gallu siarad yn glir am fod eu hymennydd nhw’n dweud wrthyn nhw eu bod nhw mewn perygl, felly gofalwch eich bod yn chwlio am gliwiau corfforol hefyd.