AberOfalgar
Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant
Credwn y dylai addysg prifysgol fod ar gael i unrhyw un a fyddai'n cael budd ohono, waeth beth fo’u cefndir. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich profiad ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gallu cyflawni hyd eithaf eich gallu wrth astudio gyda ni. Rydym yma i'ch cefnogi ar bob cam o'ch taith, beth bynnag fo'ch amgylchiadau.
Nod Bwrsariaeth AberOfalgar yw cefnogi myfyrwyr sy'n hanu o'r DU sydd wedi bod mewn gofal yn y gorffennol, sydd â chyfrifoldebau gofalu, sy'n ffoaduriaid neu sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd neu warcheidwaid yn eu harddegau hwyr.
I gael gwybodaeth ar sut i wneud cais ar gyfer Bwrsariaeth AberOfalgar, ewch i Bwrsiariaeth AberOfalgar : Astudio Gyda Ni , Prifysgol Aberystwyth
AberOfalgar – Ceiswyr lloches
AberOfalgar – Ymadawyr Gofal
AberOfalgar – Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd
AberOfalgar - Myfyriwr sydd yn Rhieni
AberOfalgar - Ffoadur
AberOfalgar – Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc
Rydym yn hynod o falch bod Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnig Ysgoloriaethau Noddfa o’r Flwyddyn Academaidd 2022/23 ymlaen - am fwy o wybodaeth gweler: https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/scholarships-bursaries/sanctuary-scholarship/
Mae’r Ysgoloriaethau Noddfa ar gyfer y rhai hynny o gefndiroedd lle’u gorfodwyd i fudo sy'n wynebu rhwystrau rhag mynd i brifysgol oherwydd bod rheoliadau'r Swyddfa Gartref yng nghyswllt eu statws mewnfudo yn eu hatal rhag cael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr. Mae’r Ysgoloriaeth Noddfa ond yn berthnasol i’r rhai sy’n preswylio yn y DU ar hyn o bryd.
Y Broses:-
Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid eich bod wedi derbyn cynnig amodol neu ddiamod gan Brifysgol Aberystwyth i astudio gradd israddedig amser llawn neu Dystysgrif Sylfaen Ryngwladol neu gwrs meistr ôl-raddedig a ddysgir trwy gwrs.
Wrth gwblhau'r ffurflen gais am yr Ysgoloriaeth Noddfa darllenwch y nodiadau canllaw os gwelwch yn dda. Dylech gyflwyno eich cais am Ysgoloriaeth Noddfa drwy'r ffurflen ar-lein.
Bydd angen i'ch datganiad personol fod yn un arbennig gan ei bod yn broses hynod gystadleuol, gyda'r ymgeiswyr gorau yn cael cynnig un o'r ddwy ysgoloriaeth sydd ar gael.
Bydd angen i chi anfon tystiolaeth berthnasol fel atodiad i noddfa@aber.ac.uk. Bydd angen i chi ddarparu copi o'ch Cerdyn Cofrestru Cais (ARC) NEU fel arall bydd angen i chi lenwi Ffurflen Ganiatâd Hanes Mewnfudo (IHC). E-bostiwch noddfa@aber.ac.uk os oes angen ffurflen IHC arnoch.
Bydd angen darparu geirda gan eich canolwr. Anfonwch y geirda fel atodiad at noddfa@aber.ac.uk Dylai'r canolwr fod yn rhywun yn y Deyrnas Unedig sy'n eich adnabod yn dda. Gallai'r canolwr fod yn aelod o grŵp cymorth i ffoaduriaid, sefydliad gwirfoddol, gweithiwr achos, cynghorydd cymorth, neu weithiwr proffesiynol ym meysydd addysg neu iechyd. Dylai eu geirda fod ar bapur pennawd ac nid o e-bost personol (e.e. gmail, yahoo ac ati)
Dylid cyflwyno ceisiadau cyn y dyddiad cau a nodir ar y we-ddalen - https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/scholarships-bursaries/sanctuary-scholarship/#about-the-scholarships