Enghreifftiau o'r math o sylwadau rydym yn derbyn, a ble ddylent fynd

a) Rwy'n byw mewn neuadd ac mae'r clo ar fy nrws wedi torri. A all rhywun ei drwsio?

- Yn yr achos hwn, dylai'r myfyriwr ffonio'r Ddesg Gymorth ar 01970 622999

b) Dw i wedi ailosod fy nghyfrinair ond dw i wedi cael fy nghloi allan o'm cyfrif Prifysgol Aberystwyth

- Gall y Gwasanaethau Gwybodaeth helpu - ffoniwch 01970 622400 neu e-bostiwch gg@aber.ac.uk

c) Hoffwn gynnig sylwadau am fy nghwrs yn ddienw

- Llenwch y ffurflen Rho Wybod Nawr, a gadewch y meysydd enw a chyfeiriad e-bost yn wag.  Cofiwch na allwn ymateb i sylwadau dienw

ch) Dw i'n poeni am ffrind, mae'n cael trafferth ar hyn o bryd.

Cysylltwch â Nawdd Nos neu Wasanaeth Lles y Myfyrwyr.

d) Mae gen i rai awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella seminar fy modiwl, ac nid wyf yn siŵr â phwy y dylwn i siarad am y peth.

- Cysylltwch â chydlynydd eich modiwl, neu gallwch lenwi ffurflen Rho Wybod Nawr (cofiwch roi eich manylion cyswllt), a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â'r bobl gywir.