A allaf ddefnyddio Rho Wybod Nawr i ganmol neu ddiolch?

Gallwch wrth gwrs! Carem glywed gennych am yr hyn sydd wedi gwneud eich amser yma yn Aberystwyth yn werth chweil. Os oes darlithydd sydd wedi helpu y tu hwnt i’ch disgwyliadau neu os yw staff y Llyfrgell wedi bod yn arbennig o groesawgar, rhowch wybod i ni. Yn Aberystwyth rydym wrth ein bodd yn dathlu arferion da a byddwn yn sicr o basio eich sylwadau ymlaen, mae hi bob amser yn grêt clywed sylwadau o’r fath.