Gwelliannau i Gyfleusterau Technoleg
Wi-Fi ledled y Campws
Mewn ymateb i’r defnydd cynyddol o ddyfeisiadau symudol gan fyfyrwyr (ffonau deallus a theclynnau tabled) cafwyd ymestyniad sylweddol ar rwydwaith Wi-Fi y Brifysgol yn ystod yr haf gan gynnwys neuaddau preswyl Penbryn, Cwrt Mawr, Trefloyne, Rosser a Brynderw. Bydd gan yr holl neuaddau preswyl a’r adeiladau academaidd sy’n eiddo i’r Brifysgol wasanaeth Wi-Fi erbyn mis Medi 2013. Mae’r holl neuaddau myfyrwyr hefyd yn cynnwys cysylltiadau rhwydwaith drwy wifren.
Gwasanaeth ebost newydd i fyfyrwyr
Mae gwasanaethau e-bost a meddalwedd cydweithredol yn cael eu darparu drwy Microsoft Office 365 ers mis Gorffennaf 2013. Mae hyn yn cynnig ystod o wasanaethau y tu hwnt i e-bost traddodiadol i holl fyfyrwyr Aberystwyth:
-
E-bost yn cynnwys 25GB o ofod storio ar gyfer pob defnyddiwr,e-bost dosbarth busnes a chalendrau ar y cyd
-
Storio a rhannuffeiliau. Mae SkyDrive Pro ynrhoi iddefnyddwyr7 GB o ofod storio personol. Rhannu dogfennau’n rhwydd gydag eraill drwy Office neu SharePoint
-
Cymwysiadau gwe Office fydd yn galluogi myfyrwyr i greu agolygu ffeiliau Word, PowerPoint, Excel, a OneNote Office drwy borwr gwe
-
Gweithleoedd dogfen cyfrannol yn defnyddio SharePoint
-
Cynadledda ar y we. Gweithio ar brosiectau grŵp a chynnal cyfarfodydd ar y we drwy gynadledda fideo diffiniad uchel, rhannu sgrin a negeseua sydyn
Mae hyn oll ar gael drwy ffonau a thabledi yn ogystal â gliniaduron a chyfrifiaduron bwrdd gwaith.
Mae gan bob ystafell cyfrifiaduron myfyrwyr gyfrifiaduron personol newydd
Mae gan bob ystafell cyfrifiaduron myfyrwyr gyfrifiaduron personol newydd sbon yn barod ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd. Fel rhan o fuddsoddiad sylweddol i wella cyfleusterau TG i fyfyrwyr, gosodwyd 769 o gyfrifiaduron newydd mewn ystafelloedd cyfrifiaduron ar gampws Penglais a chanolfan Llanbadarn, yn y dref ac mewn mannau dysgu yn neuaddau preswyl myfyrwyr.
Mae’r cyfrifiaduron hyn yn cynnwys y prosesyddion Core i3 64-bit diweddaraf, monitorau sgrin lydan 22 modfedd ac yn rhedeg Microsoft Windows 7, Microsoft Office, a chyfres o ragor na 200 o’r cymwysiadau diweddaraf. Mae llawer o’r cyfrifiaduron hyn mewn ystafelloedd 24 awr gan gynnwys yr ystafelloedd dysgu yn neuaddau preswyl myfyrwyr.
Argraffu
Mae’r Brifysgol wedi ehangu’r gwasanaeth argraffu ‘dilynwch fi’. Gall myfyrwyr gasglu eu hallbrintiau o adeiladau academaidd, llyfrgelloedd a neuaddau preswyl ar y campws. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu ffotogopïo a sganio rhad ac am ddim.
Drwy ddefnyddio’r dyfeisiadau amlbwrpas arbed ynni diweddaraf, allbwn dwplecs a phapur wedi ei ailgylchu mae’r gwasanaeth hefyd yn lleihau effaith amgylcheddol argraffu. Heblaw hynny, mae Aberystwyth yn cynnig un o’r gwasanaethau argraffu rhataf i fyfyrwyr o holl Brifysgolion y DU:
-
A4 unlliwgostyngiad o 5c i 3c
-
A4 lliwgostyngiad o 30c i 6c
-
A3 unlliwgostyngiad o 10c i 4c
-
A3 lliwgostyngiad o 60c to 7c
Ailwampio Ystafelloedd Dysgu
Mae’r Brifysgol wedi ailwampio ac ailaddurno 13 o ystafelloedd dysgu yn Adeilad Hugh Owen. Maen nhw’n cynnwys
-
System technoleg dysgu amgenach sy’n cael eistorio mewn darllenfwrdd y gellir cymhwyso ei uchder ac a fydd yn cynnwys Cyfrifiadur Personol dysgu llawer cyflymach, monitor Cyfrifiadur Personol rhyngweithiol, chwaraewr Blu-Ray, camera dogfennau, camera gwe, microffon, uchel seinyddion wedi eu gosod yn y nenfwd ac uned reoli
-
Golau Lutron sy’n defnyddio ynni’n effeithlongyda phedwar rhagosodiad i alluogi staff a myfyrwyr i addasu’r golau yn ôl y galw
-
Mae pob ystafell yn cynnwys dolenni anwythoclyw trefn raddol sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb (Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd gynt)
-
Mae’r ystafelloedd yn cynnwys gwahanolfathau o ddodrefn i hwyluso amrywiaeth o
-
ddulliau dysgu
-
Carpedi newydd,gorchuddion nenfwd a ffenestri ar gyfer tywyllu’r ystafelloedd
-
Mae arwynebau ysgrifennu a thaflunio newyddyn cael eu gosod i alluogi unigolyn i ysgrifennu ar arwyneb a fydd hefyd yn gweithredu fel sgrin taflunio
-
Mae’r holl ystafelloedd yn cynnwys cyfleusterau diwifr gyda digon o gyrchfannau diwifr.