Buddsoddi miloedd yn yr offer addysgu diweddaraf
Nigel Thomas, Rheolwr Datblygu Mannau Dylunio a Dysgu y Brifysgol, yn Theatr Ddarlithio A14 yn Hugh Owen
12 Awst 2013
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dechrau ar raglen dreigl o fuddsoddiadau yn ei ystafelloedd dysgu gan ddechrau gydag adnewyddu ac ailaddurno 13 o ystafelloedd yn Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais a fydd yn barod ar gyfer y don newydd o fyfyrwyr sy'n mynychu fis Medi eleni.
Bydd y buddsoddiad, sydd werth £640,000, yn gweld pob ystafell cynnwys system technoleg addysgu llawer gwell, system goleuadau ynni-effeithlon, arwynebau ysgrifennu newydd, dolenni clywed sain, rhwydwaith diwifr, dodrefn, lloriau a gorchuddion ffenestr.
Mae'r dechnoleg newydd yn cynnwys darllenfwrdd sy’n cynnwys PC solet newydd sy'n darparu perfformiad cyflymach, monitor PC rhyngweithiol, chwaraewr Blu-Ray, camera dogfen, camera we, meicroffonau, llefarydd nenfwd uchel ag uned rheolaeth panel cyffwrdd Extron.
Eglurodd Nigel Thomas, Rheolwr Datblygu Mannau Dylunio a Dysgu Prifysgol Aberystwyth, "Cafodd yr ystafelloedd yma eu hadeiladu yn ôl yn y 70au, ac nid ydynt yn addas ar gyfer y newidiadau mewn addysgu a dysgu sydd wedi datblygu dros y pedwar degawd diwethaf.
"Yn ogystal â thechnoleg newydd, rydym hefyd wedi newid y dodrefn a’r gosodiad mewn rhai ystafelloedd i gynnig dewis o arddulliau addysgu, gan gynnwys dysgu ar y cyd. Rydym hefyd wedi cyflwyno lliw i'r ystafelloedd i ychwanegu rhywfaint o fywiogrwydd.
"Mae pob ystafell yn cynnwys dolenni sain clyw sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb yn ogystal â system oleuo ddatblygedig gyda phedwar math gwahanol o osodiadau a fydd yn galluogi staff a myfyrwyr i addasu'r goleuadau i'w hanghenion."
Bydd holl adrannau academaidd Prifysgol Aberystwyth yn gallu manteisio ar y cyfleusterau newydd o fis Medi ymlaen.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff, Rebecca Davies, "Mae'r datblygiad hwn wedi bod yn cael ei gynllunio ers ychydig o flynyddoedd bellach, ac rydym wrth ein bodd y bydd y weledigaeth yn fuan yn dod yn realiti.
"Rydym yn falch iawn o sicrhau'r gwelliannau hyn i brofiad myfyrwyr Aberystwyth. Bydd yr ystafelloedd newydd o fudd mawr i'n myfyrwyr ac i’n staff am eu bod yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf a dwi’n siŵr y byddant yn bleser i weithio ynddynt.
"Mae ystafelloedd addysgu Campws Llanbadarn hefyd yn cael eu paratoi i fanylion tebyg i Adeilad Hugh Owen a fydd yn barod erbyn mis Medi 2013."
Esboniodd Megan Williams, Cymrawd Dysgu yn y Brifysgol, "Un o nodweddion y dechnoleg newydd yw meddalwedd recordio darlithoedd Panopto. Mae fy narlithoedd yn cael eu recordio ac mae hyn yn galluogi myfyrwyr i adolygu ac ail-ymweld â'r deunydd fel ag y dymunant, ac felly yn hyrwyddo eu dealltwriaeth ac yn rhoi cyfle i adolygu eu nodiadau yng nghyd-destun y ddarlith.
"Bonws ychwanegol yw’r camerâu dogfen newydd - yn hytrach nag ysgrifennu ar fwrdd traddodiadol gallaf ysgrifennu ac anodi ar ddarn o bapur, gan wneud fy ysgrifen yn daclusach ac yn haws i'w ddeall. Mae hyn yn fy ngalluogi hefyd i wynebu’r myfyrwyr yn hytrach nag bod rhaid iddynt edrych ar gefn fy mhen!"
Mae Campws Llanbadarn yn gartref i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes, Adran y Gyfraith a Throseddeg ac Astudiaethau Gwybodaeth.