Dy Brofiad Aber
Rydym yn buddsoddi dros £100m i wella eich profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hyn yn fuddsoddiad mawr yn y cyfleusterau fydd ar gael i chi. Byddant yn sicrhau y byddwch yn elwa o gyfleusterau dysgu ac addysgu o'r radd flaenaf. Dyma un o'r buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Brifysgol.
Dyma'r prif fuddsoddiadau:
- Fferm Penglais – prosiect preswylfeydd newydd gwerth £45m. Bydd y preswylfeydd newydd yn darparu llety ar gyfer 1000 o fyfyrwyr ac yn cynnwys 100 o fflatiau stiwdio
- Buddsoddiad hyd at £20m i ail-ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth
- Buddsoddiad £35m er mwyn datblygu Campws Ymchwil ac Arloesedd newydd yng Ngogerddan
- Rydym wedi buddsoddi mwy na £4.5m yn ein canolfan yn Llanbadarn Fawr er mwyn creu amgylchedd busnes a phroffesiynol newydd gyfer ein Hysgol Rheolaeth a Busnes, Adran y Gyfraith a Throseddeg a'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Rydym wedi ailwampio’r darlithfeydd, creu lleoedd arloesol ar gyfer dysgu, a mannau cymdeithasu a mannau cymorth academaidd.
Eich profiad technoleg
- WiFi mwy dibynadwy a chyflym bellach ar gael ledled y campws ac yn neuaddau'r Brifysgol
- Buddsoddiad, gwerth £640,000 yn ein hystafelloedd dysgu gan ddechrau gydag adnewyddu ac ailaddurno 13 o ystafelloedd yn Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais
- 769 PC newydd sbon yn yr ystafelloedd cyfrifiaduron ar draws campws Penglais , canolfan Llanbadarn , yn y dref ac mewn neuaddau
- Rydym wedi buddsoddi yn system Ebrary, adnodd newydd ardderchog sy’n darparu dewis gwahanol i lyfrau papur, sy’n eich galluogi i gael gwell mynediad i ddeunyddiau astudio hanfodol 24 awr y dydd ar y campws ac oddi arno. Darllenwch mwy ar ein Blog Gwasanaethau Academaidd
- System rhestrau darllen newydd sy’n cael ei chynnal gan Talis Aspire. Mae hon yn system rhestrau darllen ar-lein sydd wedi'i dylunio i lunio rhestrau o adnoddau sydd wedi'u cyfeirnodi'n gywir, a’u cysylltu â rhestrau adnoddau sydd ar gael mewn modiwlau ar Blackboard a lleoliadau arlein eraill. Darllenwch mwy ar ein Blog Gwasanaethau Academaidd
- Mae’r ymgyrch ‘Mwy o Lyfrau’ yn neilltuo arian ychwanegol i roi mwy o lyfrau i’n myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau fod gen ein myfyrwyr dewis wrth dethol yr adnoddau a fydd yn cael eu prynu ar gyfer llyfrgelloedd y Brifysgol.
- E-bost myfyrwyr a gwasanaethau cylchwedd drwy Microsoft Office 365
- Argraffu ‘dilynwch fi’ ar draws y campws mewn adeiladau academaidd, llyfrgelloedd a neuaddau
- Un o'r gwasanaethau argraffu myfyrwyr rhataf yn y Deyrnas Gyfunol
- Darlledu byw o Seremonïau Graddio a diweddariadau Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer rhannu gyda ffrindiau a theulu
- Rydym wedi cyflwyno un system electronig ar gyfer cyflwyno aseiniadau. Gallwch ddarganfod mwy am E -gyflwyno fan hyn.
Eich gyrfa a phrofiad cyflogadwyedd
- Rhaglen cynllun hyfforddai graddedig i ddechrau eich gyrfa mewn Addysg Uwch
- Cyfleoedd i gwrdd â chyflogwyr mewn cyflwyniadau a digwyddiadau cyflogadwyedd
- Wythnos Cychwyn busnes, cyfle i rwydweithio a chwrdd ag entrepreneuriaid o'r un meddylfryd
- Cyngor gyrfaoedd ar ôl i chi raddio.
... Byddwn yn buddsoddi mwy ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn rhoi hyd yn oed yn fwy i chi.