Pobl Aber

pobl aber people logo

Beth yw Pobl Aber?

Dull i gyrchu a darparu’r gwasanaethau sy'n cysylltu pobl ar draws Brifysgol Aberystwyth yw Pobl Aber.  Mae’n cynnig mynediad i:

  • slipiau cyflog
  • cadarnhau gwyliau
  • cofnodi datblygiad personol
  • rheoli eich tîm.

Beth fydd Pobl Aber yn ei wneud?

Mae Pobl Aber wedi moderneiddio'r ffordd yr ydym yn gweithio trwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein yn lle’r hen systemau papur.

Fel unigolion, mae gennym fynediad i weld ein data personol ein hunain, gwneud rhai newidiadau neu wneud ceisiadau megis absenoldeb gwyliau ac olrhain y cynnydd ar-lein. Rydym yn gwybod yn union ble mae ein cais, boed hynny ar gyfer gwyliau, ar gyfer taflenni amser neu ar gyfer newid cytundebol, a beth yw ei statws.

Fel recriwtwyr neu reolwyr, rydym yn gallu rheoli prosesau ar-lein a chael mynediad i adroddiadau clir i gael gwybodaeth drosolwg amserol, cywir ar gyfer ein tîm neu adran.

 

Sut ydw i'n dod o hyd i ragor o wybodaeth?

Defnyddiwch y Canllaw Hunan-wasanaeth sy'n cynnwys rhestr gynhwysfawr o'r fwydlen a swyddogaethau'r system.

 

Mewngofnodi i PoblAber