Tîm Lles
Mae Gwansanaeth Lles Aberystwyth yn system gymorth wedi'i chynllunio i wella lles cyffredinol aelodau ein cymuned a sicrhau eu bod yn cael y gorau o'u hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ein gwasanaeth yn cynnig amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys opsiynau cwnsela, adnoddau ar-lein, a gwasanaeth galw heibio dyddiol i ymdrin ag anghenion myfyrwyr. Lle bo'n briodol, rydym yn cydweithio â'n partneriaid lleol a gwasanaethau statudol i helpu myfyrwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol profiadol yn ymroddedig i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol, meithrin gwytnwch, a grymuso unigolion i gael profiad cadarnhaol o fywyd Prifysgol.
Pa gymorth ydyn ni'n ei gynnig?
Cymorth cwnsela: Cwnsela sy'n Canolbwyntio ar Atebion yn gysylltiedig ag anawsterau bywyd prifysgol fel straen arholiadau, hiraeth, neu unigrwydd.
Cymorth i Gysylltu â Meddyg Teulu: eich cynorthwyo i lywio drwy’r broses o gysylltu â Meddyg Teulu ar gyfer eich anghenion iechyd.
Gwasanaethau Statudol Lleol: Darparu gwybodaeth a chymorth i fanteisio ar y gwasanaethau statudol lleol sydd ar gael i chi.
Proses Cymorth i Astudio: Cynnig cymorth i’ch helpu i fanteisio ar y gwasanaethau cymorth academaidd sydd ar gael.
Cyswllt â Grwpiau Cymorth Lleol: Eich cysylltu chi â grwpiau cymorth lleol perthnasol i wella eich lles cyffredinol.