Partïon Plant
Yma yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth credwn y dylai partïon fod yn gyfle i fwynhau a chael hwyl, heb greu gwaith i rieni a gwarcheidwaid.
Gallwn ddarparu’r holl gyfarpar sydd ei angen ar gyfer y parti. Bydd aelod cymwys o’r staff yn cynnal y digwyddiad, felly bydd y bachgen neu’r ferch sy’n dathlu pen-blwydd yn siŵr o gael diwrnod i’r brenin.
Dewis eich Parti
Parti Pêl-droed ar y Cae 3G
Pêl-droed yw’r gamp fwyaf popblogaidd ym Mhrydain. Gallwn ddweud heb ddim amheuaeth mai partïon pêl-droed yw’r dewis mwyaf poblogaidd o blith ein holl bartïon.
Pris | Oedran | Uchafswm |
£55.00 | 6+ | 26 plentyn |
Parti Campau Cymysg
Yma yn y Ganolfan Chwaraeon, rydym yn falch o allu dweud bod o leiaf un aelod o’r staff yn gymwys yn y rhan fwyaf o gampau, felly beth bynnag sy’n mynd â bryd eich plentyn, gwnawn ein gorau glas i sicrhau eich bod yn cael parti hwyliog, hapus yn y gamp honno.
Dewiswch un gamp neu gymysgedd ohonynt o’r rhestr - Tenis, Hoci, Pêl Rwyd, Rygbi (Tag), Pêl Fasged, Rownderi, Athletau, Badminton
Pris | Oedran | Uchafswm |
£55.00 | 8+ | 26 plentyn |
Dringo Dan Do
Ar ein wal glogfeinio caiff pob plentyn gyfle i ryddhau’r Spiderman sydd ym mhob un. Gyda hyfforddwyr cymwys wrth law i helpu i wella eu sgiliau, mae’n lle gwych i fod.
Bydd gemau wedi’u trefnu i’r grŵp i sicrhau bod y plant yn cael mwynhad, hwyl a chyffro wrth wneud y gweithgaredd hwn.
Pris | Oedran | Uchafswm |
£56.00 neu £74.00 | 7-15 oed | 8 neu 16 plentyn |
Partïon Zumba
Zumba yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ym myd ffitrwydd Aberystwyth ers aerobeg step. Mae dosbarthiadau eisoes ar gael i blant yn y Ganolfan Chwaraeon, ac mae hwn yn gyfle gwych i’ch plentyn fwynhau’r sesiwn Zumba gyda’i ffrindiau.
Gallwn hefyd ddod â’r Zumba atoch chi! Cysylltwch â’r Ganolfan Chwaraeon i drefnu.
Pris | Oedran | Uchafswm |
---|---|---|
£60.00 | 6 oed + | 26 o blant |
Bwyd Parti
Rydy'n eisoes yn cynnig bwyd i'r grwp wrth ddilyn yr hwyl. Cliciwch ar y ddolen canlynol i weld y prisiau a'r opsiynau: Bwyd Parti
Archebu
Anfonwch e-bost i ni gyda'ch manylion. Gallwch ddod o hyd i'n manylion cyswllt wrth glicio ar y ddolen ganlynol: Cysylltwch â Ni
*Noder bydd angen isafswm o 21 diwrnod o rybudd ymlaen llaw, er mwyn i ni gadarnhau'r lleoliad, yr hyfforddwr a darparu bwyd.