Pwll Nofio a Sawna

 

Mae Pwll Nofio'r Ganolfan Chwaraeon yn cynnig 6-8 awr o nofio hamdden bob dydd, mae lonydd yn cael eu gosod sy'n cynnig lefelau amrywiol o ran gallu. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau wythnosol i'r teulu a sesiynau Nofio Treiathlon, maent oll ar gael i'r aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau, gan gynnwys y gymuned.

Yn ystod y tymor, mae nifer o glybiau chwaraeon y brifysgol yn cynnal gweithgareddau rheolaidd gan gynnwys Nofio o dan y dŵr, Nofio a Pholo dŵr Wrth ymyl y pwll nofio ceir y Sawna sydd ar gael yn ystod yr amseroedd nofio cyffredinol.

Archebwch eich lle ar-lein neu ffoniwch ni ar 01970 622280.

Prisiau talu wrth ddefnyddio i'r rhai nad ydynt yn aelodau: Oedolion £4.00 Plant £3.50

Gwersi Nofio

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein rhaglen nofio yn dechrau ar Ddydd Llun 13 Ionawr.

Bydd y rhaglen yn dilyn Pasbort Dŵr Nofio Cymru.

Bydd pob sesiwn yn darparu o leiaf 40 munud o amser nofio i alluogi'r tiwtoriaid i roi'r offer a'r cymhorthion cywir i bawb cyn i'r dosbarth ddechrau.

Dyddiadau'r Cwrs

Nifer o wythnosau 12
Dyddiadau cychwyn Yr wythnos yn cychwyn 13 Ionawr 2025
Does dim gwersi yn ystod Hanner Tymor 24 - 28 Chwefror 2025

Amserlen

Diwrnod Amser Dosbarth Lleoedd sydd ar gael
Dydd Llun 16.00-16.30 Sblash 1 & 2 0
16.00-16.30 Sblash 3 3
16.30-17.00 Sblash 4 0
16.30-17.00 Sblash 4a 0
17.00-17.30 Sblash 5 3
17.00-17.30 Sblash 6 0
Dydd Mawrth 16.00-16.40 Ton 1 1
16.00-16.40 Ton 1a 0
16.40-17.20 Ton 2 2
16.40-17.20 Ton 2a 3
17.20-18.00 Ton 3 3
17.20-18.00 Ton 3a 2
Dydd Iau 16.00-16.40 Ton 4 0
16.00-16.40 Ton 5 2
16.40-17.20 Ton 6 0
16.40-17.20 Ton 6a 0
17.20-18.00 Ton 7 2
17.20-18.00 Ton 7a 2

Am rhagor o wybodaeth e-bostiwch joc57@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622280.

Sawna Nordig

Beth yw Sawna Nordic?

Mae’n gaban pren heb gainc o radd uchel sydd yn cynnig amgylchedd ymdrochi rhwng sawna sych ac ystafell stêm gwlyb. Mae’r cyfuniad cytbwys o wres a lleithder yn cynhyrchu awyrgylch ‘trofannol’, sy’n ymlacio ac yn bywiogi.

Mae’r sawna yn dosbarthu gwres a lleithder rheoledig i’r caban, gyda thymheredd rhwng 50-60°C a lleithder rhwng 40-50%. Mae'r Sawna yn cynnig math gwahanol o brofiad ymdrochi sy'n cael ei wella ymhellach gydag olewau hanfodol, hanfodion a goleuo.

Nodwedd Aroma

Gellir gwella y profiad ymdrochi drwy ddefnyddio gwahanol olewau hanfodol o’r categorïau canlynol – Adfywiol, Ymlaciol, Bywiogus, Egsotig a Hudol.

Nodiadau Arweiniol.

Am fwy o wybodaeth, a’r rheolau ar ddefnydd, cliciwch ar y ddolen o dan.

Cyfarwyddiadau defnyddio'r Sawna

OxFord Dipper - Teclyn Codi Mynediad i'r Pwll

Mae gennym declyn codi pwll Oxford Dipper i gwsmeriaid ei ddefnyddio er mwyn cael mynediad i'r pwll. Mae staff wedi'u hyfforddi i'w ddefnyddio, ac yn hapus i gynorthwyo. Fodd bynnag, bydd angen i ddefnyddwyr allu gosod eu hunain ar ac oddi ar sedd y teclyn codi.

Efallai y bydd angen eich amynedd, os bydd angen i staff drefnu gwasanaeth achub bywyd, er mwyn sefydlu'r teclyn codi.

Sylwch: Llwyth gweithio diogel y teclyn codi yw 140kg (22 st)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r darn hwn o offer, gofynnwch i siarad â’r Rheolwr ar Ddyletswydd, a fydd yn hapus i gynorthwyo.