Trac Rhedeg

 

Mae’r Mondotrack SX, ffrwyth gwaith ymchwil newydd gyda Phrifysgol Paria, yn wyneb arloesol. Bydd y gwead newydd hwn yn gwella ac yn hybu perfformiad athletig y defnyddwyr.

I gael gwybod mwy am ddefnyddio neu logi’r cyfleuster newydd gwych hwn, ewch i’r penawdau priodol isod.

Amodau Defnyddio’r Trac

Bydd yr amodau isod yn berthnasol i holl ddefnyddwyr y cyfleuster:

  • Ni chewch redeg yn droednoeth ar y trac
  • Cewch wisgo esgidiau rhedeg â phigau, ond ni chaiff y pigau fod yn fwy na 6mm
  • Ni chewch ddefnyddio blociau cychwyn heblaw fod y Ganolfan Chwaraeon wedi cadarnhau hynny’n ysgrifenedig
  • Rhaid i chi redeg yn wrth-glocwedd
  • Ar adegau penodol yn ystod yr wythnos, bydd un lôn ar gau. Peidiwch â defnyddio’r lôn sydd ar gau yn ystod yr adegau hynny. (Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod yr wyneb yn para’n well.)
  • Rhaid i bob cyfarpar hyfforddi a osodir ar y trac fod yn fath nad yw’n gadael unrhyw ôl

 

Cliciwch ar y ddolen pdf isod i weld rhestr lawn o’r Telerau a’r Amodau

Telerau ac Amodau’r Trac Rhedeg

AMODAU DEFNYDDIO’R TRAC RHEDEG 2 LÔN (pdf)