Pwysau Rhydd

 

Ystafell Pwysau Rhydd

Mae’r Ystafell Pwysau Rhydd yn cynnig math mwy penodol a ‘naturiol’ o hyfforddi. Mae’r ystod gynhwysfawr o beiriannau cryfder a chyflyru a’r dewis helaeth o bwysau rhydd o gymorth i chi i wneud ymarferion mwy penodol yn eich dewis gamp neu wrth geisio cyrraedd eich nodau hyfforddi.

Mae ein llwyfannau cryfder a chyflyru dynodedig yn ddelfrydol i’r rhai sy’n dilyn rhaglen camp-benodol i’w helpu i berfformio hyd eithaf eu gallu.

 

Ystafell Llwytho Platiau

Ceir yn ein hystafell llwytho platiau amryw o beiriannau llwytho platiau sydd wedi’u cynllunio i fod yn wydn ac yn ergonomig. Mae hyn yn golygu y gallwch drefnu eich gwaith cryfder a chyflyru yn ôl y gwahanol grwpiau cyhyrau, ac y gallwch ymarfer yn ddiogel gan ddefnyddio ein cyfarpar llwytho platiau cadarn.

Archebwch eich lle ar-lein neu ffoniwch ni ar 01970 62280.