Cae 3G
Maint y cae yw 40m x 25m, ac mae’n adnodd hyfforddi ychwanegol ar gyfer chwaraeon cyswllt. Mae’r cae, sydd â llifoleuadau, o flaen y Ganolfan Chwaraeon, ger y Cae Astro presennol. Mae ar gael i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr, clybiau myfyrwyr, staff, ysgolion a grwpiau cymunedol drwy gydol y flwyddyn.
Amodau Defnyddio’r Cae
Mae’r amodau isod yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio’r cyfleuster:
- Ni chewch fynd ar y trac yn droednoeth
- Cewch wisgo esgidiau wedi’u mowldio, ond dim llafnau na stydiau metel
- Rhaid i bob cyfarpar hyfforddi a osodir ar y trac fod yn fath nad yw’n gadael unrhyw ôl
- Ni chewch fynd â gwydr i’r ardal hon
- Dim cynhesu ar y trac, heblaw fod hynny wedi’i drefnu’n rhan o’r archeb
Ceir rhestr lawn o’r Telerau a’r Amodau isod: