Datblygiad Gyrfa Ymchwil

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i gefnogi rheoli a chefnogaeth dda o ymchwilwyr a'u gyrfaoedd. Mae gwybodaeth ar gael yma am ein hymrwymiad i'r Concordat i Gefnogi Datblygu Gyrfa Ymchwilwyr, a mentrau eraill sy'n cefnogi Datblygu Gyrfa Ymchwilwyr.

 

Crwsibl Cymru

Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen arobryn o ddatblygu personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth ar gyfer darpar arweinwyr ymchwil Cymru. Bellach yn ei wythfed blwyddyn, mae’r rhaglen yn cefnogi ymchwil arloesol a chydweithio traws-ddisgyblaethol yng Nghymru.

Mae Crwsibl Cymru yn cynnig cyfle unigryw i ddod â 30 o ymchwilwyr at ei gilydd i archwilio’r modd y gallant weithio ar y cyd i ymdrin â’r sialensiau presennol sy’n wynebu ymchwil yng Nghymru. Cynhelir Crwsibl Cymru dros dri gweithdy preswyl dwys, yn para am ddeuddydd yr un, ac yn cynnwys siaradwyr gwadd llawn ysbrydoliaeth, seminarau, sesiynau ar fedrau a thrafodaethau anffurfiol.

Mae cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe, a Phrifysgol De Cymru, yn golygu y gall ymgeiswyr llwyddiannus gymryd rhan yn rhad ac am ddim. Telir yr holl gostau preswyl, yn cynnwys llety ac arlwy, a chostau’r holl sesiynau yn nhri labordy Crwsibl Cymru. Fodd bynnag, mae'n rhaid i adrannau'r mynychwyr dalu'r holl gostau teithio a chynhaliaeth. Crwsibl Cymru sy’n talu’r holl gostau eraill.

Bydd Crwsibl Cymru yn eich helpu i wneud y pethau canlynol:

  • datblygu rhwydwaith o gydweithwyr o fewn y gymuned ymchwil; 
  • meithrin cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chyfryngau Cymru;
  • gwella eich effeithlonrwydd, o fewn eich sefydliad a’r tu hwnt;
  • sicrhau bod eich ymchwil yn cael mwy o effaith;
  • dysgu am wahanol feysydd ymchwil ac annog datblygiad personol a gyrfaol.

Mae llawer o’n cyfranogwyr blaenorol wedi dweud mai hwn o bosib yw’r gweithgaredd datblygu gorau iddynt ei fynychu erioed, a’i fod yn sicr yn werth y buddsoddiad amser.

Pwy sy’n gymwys?

Ymchwilwyr ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfaoedd, sydd â thair blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol.

Dylai ymgeiswyr fod yn gweithio yng Nghymru yn un o’r Prifysgolion sy’n ariannu’r rhaglen (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe, De Cymru) NEU ym maes datblygu ymchwil mewn busnes, diwydiant neu yn y sector cyhoeddus.

Mae rhagor o wybodaeth am Grwsibl Cymru ar gael ar eu gwefan: www.welshcrucible.org.uk

Euraxess

Mae Swyddfa Ymchwil Prifysgol Aberystwyth wedi ymuno â rhwydwaith Mannau Cyswllt Lleol Euraxess yn ddiweddar…un o blith dau le yng Nghymru sydd wedi ymuno! Mae Mannau Cyswllt Lleol Euraxess yn rhwydwaith datblygol o Brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop sydd wedi derbyn ‘bathodyn’ anrhydedd Euraxess. Mae’r Mannau Cyswllt Lleol hyn yn cefnogi staff eu sefydliad eu hunain drwy gynorthwyo ymchwilwyr sy’n dod i’r sefydliad neu’n ei adael. Gall statws Mannau Cyswllt Lleol ddenu doniau ymchwil o safon fyd-eang i’n sefydliad fydd yn cynorthwyo’r Brifysgol i gysylltu ag ymchwilwyr dramor ac o gymorth wrth gydweithio’n rhyngwladol. Mae’n debyg y bydd ein statws yn rhoi sicrwydd i adolygwyr ceisiadau ymchwil yr UE gan y byddant yn gwybod y bydd y cymrodyr sy’n teithio yn rhyngwladol ac sy’n cael eu cefnogi gan eu grantiau yn derbyn y cymorth a’r cyngor gorau posibl i ymgartrefu yn ein sefydliad. O ganlyniad, mi ddylai bathodyn Mannau Cyswllt Lleol Euraxess fod o gymorth i ennill grantiau.

Yn y cyfamser, mae croeso i ysgolheigion PA sydd am gael cyngor gysylltu ag europe@aber.ac.uk 

Gall pobl nad ydynt yn ysgolheigion PA ddod o hyd i wybodaeth am Euraxess, gan gynnwys manylion cyswllt y Mannau Cyswllt Lleol, yma.

Concordat i Gefnogi Datblygu Gyrfa Ymchwilwyr