Rhagoriaeth Ymchwil

Mae gan Aberystwyth hanes hir ac anrhydeddus o wneud gwaith ymchwil blaengar o arwyddocâd rhyngwladol. Mae ein gwaith ymchwil wedi’i gydnabod fel ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol o safbwynt ei wreiddioldeb, ei arwyddocâd a’i wytnwch.

Mae ymchwil yn rhan greiddiol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Fe'i cefnogir gan Strategaeth Ymchwil, sy'n amlinellu'r egwyddorion sy’n sail i’r modd yr awn ati i wneud ein gwaith ymchwil. Mae’n nodi cyfres o gamau gweithredu a fydd o gymorth i ddatblygu ein hymchwil dros y pum mlynedd nesaf, ac mae’n mynegi sut y byddwn yn mynd ati ymhellach i ddatblygu amgylchedd ymchwil uchelgeisiol, eangfrydig, ymroddedig a chynhwysol. 

Mae gan y Brifysgol ystod rhagorol o gyfleusterau ac adnoddau sydd o gymorth i weithgareddau ymchwil gan gynnwys pedair llyfrgell sylweddol, yr hawl i ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth electronig, ac adnoddau helaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fewn tafliad carreg i'r campws.

 

Canolfannau ac Adrannau