Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil: Hubu Effaith Ymchwil, Absenoldeb Effaith Ymchwil, Mynediad Agored

Mae'r Gronfa Effaith Ymchwil yn cynnwys tair elfen:

  • Hybu Effaith Ymchwil
  • Absenoldeb Effaith Ymchwil
  • Cyhoeddi Mynediad Agored ar gyfer Sail Ymchwil 

Cysylltwch â'ch Swyddog Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth, drwy ymchwil@aber.ac.uk i drafod eich syniadau cyn gwneud cais.

Gellir cyflwyno ceisiadau trwy gydol y flwyddyn a dylid eu cyflwyno i ymchwil@aber.ac.uk erbyn y cyntaf o bob mis. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu’n bennaf ar sail cyrhaeddiad ac arwyddocâd posibl yr effaith a ragwelir gan Grŵp Gorchwyl y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, neu ddirprwy dynodedig. I wneud cais am gymorth ar gyfer:

  • ymgysylltu, effaith ac arloesi defnyddiwch Ffurflen Gais y Gronfa Effaith Ymchwil. Mae cyllid ar gael i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu, effaith ac arloesi, hyd at £10,000 y flwyddyn academaidd. Gall y gweithgareddau hyn ddigwydd ar fyr rybudd, gallant fod yn ddigwyddiadau unigol, neu fod yn rhan o gyfres, neu gallant ffurfio rhaglen o ddatblygiad effaith a gynlluniwyd dros nifer o flynyddoedd. Rydym yn cydnabod bod angen cymorth ar gyfer nifer o weithgareddau a gellir gwneud cais am gostau teithio, cyflenwi a chostau staff (yn unol â polisi presennol y Brifysgol), neu costau sy'n gysylltiedig â chynnal a threfnu gweithdai a digwyddiadau. 

  • Absenoldeb Effaith Ymchwil defnyddiwch y  Cais am Absenoldeb Effaith Ymchwil. O dan y Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil gall aelod o staff ymgeisio am gyfnod o absenoldeb hyd at chwe mis i ganolbwyntio ar gynhyrchu effaith yn deillio o’u hymchwil. Bydd PA yn darparu’r cyllid ar gyfer gwaith dysgu a chyfrifoldebau gweinyddol yr aelod o staff. Mae pob aelod staff ar gontract ymchwil yn gymwys i ymgeisio ac mae pump lle ar gael ar y cynllun. Dylid cyflwyno ceisiadau o leiaf tri mis cyn dechrau'r semester perthnasol. Am fanylion pellach gweler ei'n polisi Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil

  • costau cyhoeddi Mynediad Agored i gefnogi effaith bosibl defnyddiwch y Ffurflen Gais Mynediad Agored.

Cronfeydd Allanol

Dylai gweithgareddau effaith ymchwil fod yn rhan o'ch prosiect ymchwil o'r cychwyn a dylent fod yn rhan annatod o unrhyw gais am grant.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Ymchwil, rdostaff@aber.ac.uk, yn y lle cyntaf. Gall y Swyddog Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth hefyd ddarparu menbwn. 

Mae cyfleoedd hefyd i wneud cais am gyllid dilynol i gefnogi gwaith effaith ymchwil, er bod y cronfeydd hyn fel rheol yn targedu gweithgareddau sy'n ymdrin â'r cyhoedd. Rydym wedi rhestru rhai o'r cronfeydd isod.

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)

Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn angerddol am bwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd â’r ymchwil y maent yn ei ariannu’n uniongyrchol, ac mewn ymchwil i’r celfyddydau a’r dyniaethau yn gyffredinol. Mae rhaglenni ymgysylltu cyhoeddus parhaus yr AHRC yn cynnwys:

  • New Generation Thinkers,  cynllun ymgysylltu cyhoeddus blaenllaw ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â’r BBC.
  • Being Human festival, wedi’i gyd-sefydlu a’i ariannu gan yr AHRC ynghyd â’r Academi Brydeinig, ac yn cael ei darparu gan Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain.
  • New Thinking podcast, rhan o gyfres Arts & Ideas BBC Radio 3 mewn partneriaeth â’r BBC, lle caiff ymchwilwyr eu cefnogi i rannu eu hymchwil.

Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC)

Dim ffynhonellau ychwanegol ond gweler Guidance on engaging the public with your research y BBSRC.

Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)

Gweledigaeth EPSRC ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yw annog datblygiad diwylliant ymchwil sy’n ysbrydoli’r cyhoedd, yn denu pobl i yrfaoedd STEM ac yn gwerthfawrogi rhyngweithio â’r cyhoedd ym mhob cam o’r broses ymchwil. Am ragor o wybodaeth gweler Public engagement - EPSRC.

Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn dod ag ymchwilwyr a’r cyhoedd ynghyd, gan godi ymwybyddiaeth o’r gwyddorau cymdeithasol ac annog cyfranogiad mewn ymchwil.

Mae’n fwy na chwrdd â chynulleidfa a dweud wrthynt am eich ymchwil. Mae ymgysylltu effeithiol â’r cyhoedd yn ymwneud â chyfathrebu dwy ffordd, gyda’r ymchwilwyr yn gwrando ar gyfranogwyr ac yn dysgu ganddynt.

Gŵyl Gwyddor Gymdeithasol

Mae Gŵyl Gwyddor Gymdeithasol yr ESRC yn ddathliad blynyddol, rhad ac am ddim ledled y DU, o’r gwyddorau cymdeithasol a gynhelir bob hydref. Darllenwch fwy am yr ŵyl.

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC)

Funding for public engagement  Mae NERC yn cefnogi rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd strategol.

Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)

Leadership Fellows in Public Engagement  Mae Cymrodyr Arweinyddiaeth STFC mewn Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn ymgymryd â rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth o ansawdd uchel tra ar yr un pryd yn gweithredu fel hyrwyddwyr ar gyfer gwerth ac ymarfer ymgysylltu ag ymchwil yn eu sefydliad a'u cymuned ymchwil.

Public Engagement Spark Awards  Cyllid ar gyfer rhaglenni o ansawdd uchel o ymgysylltu cyhoeddus newydd sy'n ysbrydoli ac yn cynnwys cynulleidfaoedd.

Public Engagement Legacy Awards  Mae Gwobrau hyn yn caniatáu i ddeiliaid dyfarniadau ymgysylltu cyhoeddus blaenorol y STFC wneud cais am gyllid i barhau â'u rhaglenni, ac esblygu'r rhaglenni hynny sy'n seiliedig ar ddysgu a gwerthuso.

Public Engagement Reaction Awards Ariannu rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n ymateb cyflym i ddatblygiadau arwyddocaol newydd a / neu annisgwyl.