Cofnodi Effaith Ymchwil
Mae'n bwysig dilyn ymarfer da ymchwil i gofnodi data a thystiolaeth wrth iddynt gael eu casglu a'u storio yn ddiogel.
Mae tudalennau Rheoli Data Ymchwil PA yn manylu ar arfer da ymchwil, gan gynnwys pwysigrwydd storio data diogel. Dylai'r gweithgarwch ymchwil presennol, gan gynnwys allbynnau ymchwil, gweithgareddau ac effeithiau, gael ei storio a'i weld ar PURE CRIS (System Gwybodaeth Ymchwil Cyfredol) y Brifysgol.
Am ragor o wybodaeth am Reoli Data Ymchwil a defnyddio PURE, cysylltwch ag ymchwil@aber.ac.uk.