Beth yw Mynediad Agored?
Testunau Mynediad Agored yw testunau ysgolheigaidd ar-lein a adolygir gan gymheiriaid sy'n rhydd o'r rhan fwyaf o gyfyngiadau hawlfraint a thrwyddedu.
Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un yn y byd ei gyrchu am ddim, gyda nifer y darllenwyr dichonol ar gyfer erthyglau mynediad agored yn llawer mwy nag y byddai ar gyfer deunydd lle mae'r testun llawn wedi'i gyfyngu i danysgrifwyr.
Y sail gyfreithiol ar gyfer mynediad agored fel rheol yw cydsyniad deiliad yr hawlfraint.
Mae’r Plan S Principles yn cynnig cyflwyniad defnyddiol i fynediad agored ar gyfer cyfathrebu ysgolheigaidd. https://www.coalition-s.org/plan_s_principles/