Gofynion Cyllidwyr Ymchwil
Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI)
Mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU yn disgwyl i bob erthygl ymchwil sy'n deillio o'u cyllid fod ar gael gyda mynediad agored. Rhaid i'r erthyglau hyn gynnwys manylion am y cyllid a gefnogodd yr ymchwil ac, os yw'n berthnasol, datganiad ar sut y gellir cyrchu'r deunyddiau ymchwil sylfaenol, megis data, samplau neu fodelau.
Y model mynediad agored a ffafrir gan UKRI yw Aur sy'n caniatáu mynediad ar unwaith i'r ymchwil a gyhoeddwyd, ond maent hefyd yn cefnogi adneuo llawysgrif dderbyniedig yr awdur (ôl-argraffu) mewn cadwrfa sefydliadol o fewn mis i'w derbyn, gelwir hyn hefyd yn Mynediad agored Gwyrdd.
O 1 Ionawr 2024, mae UKRI yn ymestyn y gofyniad mynediad agored hwn i gyhoeddiadau ffurf hir, e.e. monograffau, llyfrau wedi'u golygu, a phenodau o lyfrau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan UKRI.
Ar gyfer cwestiynau a chefnogaeth ynghylch gofynion mynediad agored UKRI, cysylltwch â ni yn openaccess@aber.ac.uk.
Cyllidwyr eraill
Mae gan y rhan fwyaf o gyllidwyr eraill bolisïau mynediad agored. Gallwch chwilio am fanylion y polisïau hyn gan ddefnyddio'r offer Gwasanaethau SHERPA: https://beta.sherpa.ac.uk/
Mae gan lawer o noddwyr bolisïau sy’n cydymffurfio â Plan S, gan gynnwys UKRI (Ebrill 2022), Wellcome Trust (Ionawr 2021), NIHR (Mehefin 2022), a'r Bill & Melinda Gates Foundation (Ionawr 2021), sy’n cynnwys amod sy’n gofyn am gadw hawliau.