Cydymffurfio â’r FfRhY
Bydd ystyriaethau pellach o'r gofynion mynediad agored penodol ar gyfer FfRhY 2029 yn digwydd yn 2024.
Hyd nes y bydd polisïau newydd yn dod i rym, dylai sefydliadau barhau i ddilyn canllawiau FfRhY 2021:
I fod yn gymwys i'w gyflwyno i’r FfRhY, mae angen adneuo unrhyw erthygl mewn cyfnodolyn neu gynhadledd a gyflwynwyd i’w gyhoeddi sy'n dwyn Rhif Cyfresol Safonol Rhyngwladol (ISSN) i'r gadwrfa sefydliadol o fewn 3 mis i'r dyddiad derbyn i'w gyhoeddi.
Disgwylir cydymffurfiad llawn â'r polisi hwn ond gall eithriadau posibl fod yn berthnasol. Ni ellir gwneud allbynnau mynediad agored yn ôl-weithredol at ddibenion y FfRhY.
Am arweiniad ar weithdrefnau cydymffurfio â mynediad agored y FfRhY ym Mhrifysgol Aberystwyth, gweler Proses Mynediad Agored yn Aberystwyth.