Talu am Fynediad Agored
Cytundebau Trawsffurfiol
Er mwyn cefnogi'r agenda mynediad agored, ac i newid y model cyhoeddi "talu-i-ddarllen" presennol yn raddol, mae'r Brifysgol yn derbyn grant bloc gan UKRI sydd wedi'i roi tuag at gytundebau cyhoeddi trawsffurfiol. Drwy'r cytundebau hyn, gall awduron cyfatebol Aberystwyth gyhoeddi erthyglau Mynediad agored Aur gydag amrywiaeth o gyhoeddwyr. Am fwy o wybodaeth am gytundebau unigol gweler Mynediad Agored: Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth
Ymchwil, Busnes ac Arloesi
Gellir gofyn am arian i gefnogi costau cyhoeddi mynediad agored, megis ffioedd prosesu erthyglau (APC), ar gyfer allbynnau ymchwil nad ydynt yn dod o dan un o'r cytundebau trawsffurfiol sydd gan y brifysgol ar waith. I wneud cais am y gronfa hon, defnyddiwch y Ffurflen Gais Mynediad Agored.
Partneriaid Allanol
Os ydych chi'n cydweithio ag ymchwilwyr mewn gwahanol sefydliadau, efallai y byddwch chi'n gweld bod ganddyn nhw fel awduron cyfatebol fynediad at Gytundebau Trawsffurfiol ychwanegol.
IBERS
Os ydych yn bwriadu cyhoeddi ymchwil a ariennir gan y BBSRC-ISPG Cnydau Gwydn mewn cyfnodolyn nad yw'n dod o dan gytundeb sy'n bodoli eisoes, ac felly, sy'n gofyn am dalu ffi prosesu erthygl am fynediad agored Aur, cysylltwch â'r Athro Alison Kingston-Smith (ahk@aber.ac.uk) neu Mimi Lloyd (mhl1@aber.ac.uk) cyn cyflwyno.