Ar bwy y mae angen RhDY?
Polisi Prifysgol Aberystwyth
Mae Polisi Rheoli Data Ymchwil Prifysgol Aberystwyth ei gadarnhau ym mis Chwefror 2014 ac mae'n cael ei adolygu'n flynyddol.
(dolenni allanol yn Saesneg yn unig)
Rheolaeth o ddata ymchwil yw nodau craidd llawer o brif gyllidwyr ymchwil yn Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys y cynghorau sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Mae Egwyddorion Cyffredin UKRI ar Ddata Ymchwil yn nodi:
"Mae data ymchwil sy'n cael arian cyhoeddus o fudd i'r cyhoedd, wedi'i gynhyrchu er budd y cyhoedd. Dylai fod ar gael yn agored â chyn lleied o gyfyngiadau â phosibl mewn modd amserol a chyfrifol."
Mae gan bob un o gynghorau UKRI ei bolisi Rheoli Data Ymchwil ei hun, fel y nodir isod:
- AHRC - yn dilyn Egwyddorion Cyffredin UKRI (dolen uchod). Rhoddir manylion polisi data’r Cyngor yn y Canllawiau Cyllid Ymchwil. Gweler yn benodol yr adrannau ar y Cynllun Rheoli Data ac 'adneuo adnoddau a setiau data'.
- BBSRC - Polisi Rhannu Data.
- EPSRC - Fframwaith Polisi EPSRC ar reoli data. Adolygiad Disgwyliadau EPSRC i Brifysgol Aberystwyth.
- ESRC - Polisi Data Ymchwil ESRC. Mae canllawiau defnyddiol i adolygwyr hefyd ar y dudalen hon.
- MRC - Polisi Rhannu Data
- NERC - Polisi data
- STFC - Cynlluniau Rheoli Data
Ymhlith cyllidwyr ymchwil eraill a chanddynt bolisïau penodol mae:
- Cancer Research UK - Polisi ar Rannu Data a’i Gadw
- Wellcome Trust - Polisi ar Reoli Data a’i Rannu
- "Horizon 2020" y Comisiwn Ewropeaidd - Yn rhan o'r raglen, mae cynllun "Peilot Data Ymchwil Agored" yn cael ei weithredu ar gyfer ardaloedd penodol. Mae canllawiau ar Reoli Data yn Horizon 2020.