Cronfa Ymchwil y Brifysgol
Mae galwad am geisiadau 2024-2025 bellach AR GAU
Mae Cronfa Ymchwil y Brifysgol (CYB) yn darparu cefnogaeth ddethol ar gyfer gweithgarwch ymchwil achlysurol, ac ystyrir ei fod o bwysigrwydd strategol i broffil ymchwil gyffredinol y Brifysgol. Mae'r Gronfa yn ceisio cefnogi prosiectau sydd naill ai:
- Wedi eu hannelu’n glir at ddenu grantiau ariannu allanol. Dylai ceisiadau gydnabod y darpar ffynhonellau o ariannu allanol
- Yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol asiantaethau cyllido allanol mawr, megis UKRI, y Cynghorau Ymchwil unigol neu Innovate UK
- Neu, yn hanfodol ar gyfer allbynnau a fwriadwyd ar gyfer yr FfRhY nesaf ac a fyddai'n amlwg yn gryfach gyda’r cyfraniad
Mae'r CYB yn awyddus i gefnogi ymchwil na all ddenu cyllid allanol ar y cychwyn, ond gellid disgwyl yn rhesymol i arwain at gefnogaeth allanol. Gofynnir i bob ymgeisydd a ydynt wedi gwneud cais (neu a allant fod wedi gwneud cais) am gyllid allanol. Ni roddir grantiau fel rheol am wasanaethau neu gyfleusterau offer y gellid eu hariannu'n well gan Adrannau neu Gyfadrannau, neu am brosiectau ble gellid cysylltu yn rhesymol ag asiantaethau allanol (er y gellir ystyried cefnogaeth ategol).
Rhaid i brosiectau fod yn ' annibynnol ' h.y. Ni ddylid eu cynllunio i ategu cyllid allanol arall na dibynnu ar ganlyniadau prosiectau cydamserol eraill.
NODYN: Mae arian mewnol ar gyfer Effaith ar gael ar wahân.