Symudedd rhyngwladol a chyllid rhwydweithio

Mae mynediad at alwadau cyllid rhyngwladol mwy yn aml yn ddibynnol ar gael perthynas gref gydag ymchwilwyr eraill yn Ewrop ac ymhellach. Mae cyllid ar gael drwy wahanol ffynonellau i ganiatáu symudedd i gryfhau'r rhwydweithiau presennol, ymuno ag eraill sydd eisoes yn gweithio gyda'i gilydd, neu i feithrin perthnasoedd rhyngwladol newydd. Mae pob un o’r cynlluniau canlynol yn cynnig cyfleoedd gwahanol ar gyfer symudedd a rhwydweithio.

COST

Ehangu neu gynnal rhwydweithiau ymchwil gyda chydweithwyr Ewropeaidd: 

Mae mynediad at arian Ewropeaidd a gallu dylanwadu ar alwadau yn y dyfodol o fewn Horizon Europe yn haws os ydych yn rhan o rwydwaith o ymchwilwyr Ewropeaidd sy'n bodoli eisoes. Mae gan Weithrediadau COST (COST Actions) brofiad blaenorol o helpu i ddatblygu neu gynnal y cynghreiriau hyn.  

COST 

Mae Gweithrediadau COST (Cydweithrediad Ewropeaidd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg) yn darparu cyllid ar gyfer cyfleoedd rhwydweithio sy'n canolbwyntio ar gwestiynau ymchwil penodol. Mae hyn yn cynnwys teithio i ddigwyddiadau rhwydweithio, yn ogystal â symudedd i gyflwyno mewn cynadleddau allweddol. 

Yn hanfodol, mae aelodaeth gyda Gweithrediadau COST yn cael effaith fawr ar lwyddiant ceisiadau am gyllid Horizon. Ar gyfartaledd, roedd llwyddiant y cynigion i Horizon 2020, a ddaeth o Weithrediadau COST, yn 37%, o’i gymharu â’r cyfartaledd o 13%.

A fydd aelodaeth gyda COST yn cael ei heffeithio gan gysylltiad â Horizon Europe? 

Na fydd. Mae aelodaeth â’r rhaglen COST yn annibynnol ar y rhaglen Horizon Europe ac nid yw'n cael ei heffeithio gan gysylltiad â rhaglen Horizon Europe.  

Pwy all wneud cais i greu/cymryd rhan mewn Gweithred COST? 

Gall academyddion, sefydliadau cyhoeddus, diwydiant a chyrff anllywodraethol wneud cais i gydweithio mewn Gweithred COST.  

A yw themâu yn cael eu pennu gan y Comisiwn Ewropeaidd? 

Nac ydynt. Mae rhwydweithiau Gweithred COST yn cael eu datblygu ar yr egwyddor ‘o'r gwaelod i fyny’ o ddatblygu ymchwil newydd.  

Ai ar gyfer academyddion newydd yn unig y mae? 

Na. Mae croeso i academyddion profiadol. Fodd bynnag, mae Gweithrediadau COST hefyd yn gyfle gwych i academyddion ar ddechrau eu gyrfa adeiladu rhwydweithiau ledled Ewrop. Mae gan y Gweithrediadau gyfrifoldeb hefyd i gynnal cydbwysedd rhwng y rhywiau. 

A yw Gweithrediadau COST wedi'u cyfyngu i gydweithrediadau Ewropeaidd? 

Nac ydynt. Mae 38 o wledydd gan gynnwys y DU yn aelodau o COST gydag 1 aelod cydweithredu arall. Yn ogystal, gall 16 o Wledydd Cyfagos gynnig a chymryd rhan yng Ngweithrediadau Cost. Gall rhagor o aelodau ymuno â Gweithred COST o bob cwr o’r byd.  

Sut alla i gymryd rhan mewn Gweithred COST? 

     1. Gwneud cais am gyllid i greu Gweithred COST newydd. 

     2. Dod yn aelod o Weithred COST sy'n bodoli eisoes.  

Yn gyntaf, mae'n werth pori'r Gweithrediadau COST presennol i weld a oes unrhyw rai o ddiddordeb yn eich maes ymchwil chi.  

Gallwch chwilio am Weithrediadau COST presennol ar y wefan.

 

Defnyddiwch dermau allweddol i weld a oes Gweithred COST sy'n cyfateb i'ch diddordebau ymchwil eisoes yn rhedeg. 

 

Pethau i gadw llygaid arnynt: 

Dyddiad gorffen: Mae'r ‘Gweithrediadau’ yn rhedeg am 4 blynedd felly mae'n werth chwilio am y rhai sy’n rhedeg am fwy o amser os ydych chi'n ystyried ymuno.  

Pwy sy'n ymwneud â'r pwyllgor/gweithgorau: Gallwch weld rhestr o holl chwaraewyr allweddol y Weithred yn y tabiau hyn.  

 

 1. Gwneud cais am gyllid i greu Gweithred COST newydd 

Os ydych yn sylwi nad oes Gweithrediadau COST sy'n gysylltiedig â'ch maes ymchwil, gallwch wneud cais am gyllid i greu Gweithred COST newydd a gwahodd partneriaid o bob rhan o Ewrop i ymuno. Mae yna alwad agored am gyllid, gyda phob cais yn cael ei asesu unwaith y flwyddyn ar ôl y dyddiad cau ym mis Hydref.  

Mae arwain Gweithred COST yn darparu cyllid ar gyfer gweinyddu. Maen nhw'n gofyn am fewnbwn amser academyddion hefyd, sydd angen ei ystyried. Os hoffech gael gwybod mwy gan academyddion yn PA sydd wedi gweinyddu Gweithred COST cysylltwch â Linda Cook.

     2. Dod yn aelod o Weithred COST sy'n bodoli eisoes.  

Gallwch gysylltu ag arweinydd y Weithred COST neu'r rhai sy'n gyfrifol am bob un o'r Gweithgorau drwy'r ddolen ar ochr dde'r dudalen.  

 

Eisiau siarad â rhywun sydd wedi bod yn rhan o Weithred COST? 

Mae nifer o academyddion yn PA wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn Gweithrediadau COST dros y blynyddoedd diwethaf. Os hoffech gael eich rhoi mewn cysylltiad â chydweithwyr eraill o PA sydd wedi arwain neu wedi bod yn rhan o Weithrediadau COST cysylltwch â Linda Cook a bydd modd iddo drefnu hyn.

SCoRE Cymru

Mae WEFO yn gweinyddu Cronfa Cydweithio Ewropeaidd Cymru, a enwi’r SCoRE Cymru (Cefnogi Ymchwil ac Arloesi Cydweithredol yn Ewrop).

Mae SCoRE Cymru yn darparu cyllid ar gyfer symudedd ar gyfer gweithgaredd rhwydweithio gan gynnwys cyfarfodydd i hwyluso ysgrifennu cynigion. Mae hefyd yn caniatáu cyllid i ysgrifenwyr cynigion ymgynghorol, gweithdai hyfforddi ar gyfer ymgeiswyr am gyllid e.e. Marie Skłodowska-Curie Actions. Er ei fod wedi'i dargedu'n wreiddiol at ymgeiswyr i Horizon Europe, mae'r cylch gwaith bellach wedi'i ehangu i gynorthwyo'r holl gyfleoedd ariannu rhyngwladol. Mae ar gael trwy Dîm Horizon Europe.

Gall gynnig y canlynol:

  • hyd at £1,000 o gostau fesul taith i gwrdd â phartneriaid posibl neu bartneriaid presennol ac i fynychu digwyddiadau
  • hyd at £10,000 ar gyfer costau datblygu cynnig megis cyngor cyfreithiol ac ymchwil i'r farchnad

Am wybodaeth bellach a ffurflenni cais gweler y dolenni isod:

Cysylltwch â Linda Cook am fwy o wybodaeth.

Strategaeth Ryngwladol Newydd Llywodraeth Cymru

Ar 14eg Ionawr 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ei Strategaeth Ryngwladol newydd.

Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth LlC ar gyfer y pum mlynedd nesaf a'r tair uchelgais ganlynol:

  • Codi proffil ‘Cymru’ ar y llwyfan rhyngwladol
  • Tyfu'r economi trwy gynyddu allforion a denu buddsoddiad o'r tu mewn
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae'n debygol y bydd SCoRE Cymru yn cefnogi'r uchelgeisiau hynny.

Cymru Ystwyth

WEFO sy’n gweinyddu Cymru Ystwyth, sef cangen o gyllid SCoRE Cymru.  Mae'r ddau yn debyg ond y prif wahaniaeth rhwng y ddau fath o gyllid yw nad yw Ystwyth yn gyfyngedig i weithgarwch ymchwil, ac mae’n annog datblygiad economaidd drwy raddio gweithgareddau a chynyddu proffil partneriaethau rhyngwladol. Gall hyn gynnwys cyfuniad o ymchwilwyr a busnesau.

Y gwahaniaeth mawr arall rhwng SCoRE ac Ystwyth yw bod y cyllid yn canolbwyntio'n fwy rhanbarthol, gyda galwadau'n cael eu cyhoeddi i ariannu partneriaethau strategol. Yn ddiweddar roedd galwad i weithio gyda rhaglawiaeth Oita yn Japan.

Pa gyllid sydd ar gael?

Fel canllaw gall gynnig hyd at £5,000 fesul cais hyd at ymyrraeth o 100%. Efallai y bydd cymorth ar gyfer buddsoddiadau strategol ar raddfa fwy hefyd ar gael o fewn cyd-destun a chyllideb bresennol galwad cyllido unigol Cymru Ystwyth.

A all gyllido costau partner tramor?

Mae’n bosibl y gall cefnogaeth ar gyfer costau partneriaid rhyngwladol fod ar gael os ydynt yn cael eu codi a'u hawlio gan y partner o Gymru. Fel sy’n wir ar gyfer yr holl gostau, rhaid i'r rhain fod yn rhesymol, yn hanfodol er mwyn cyflawni'r gweithgaredd arfaethedig ac yn cyd-fynd â nodau ac amcanion perthnasol.

Am beth alla i hawlio?

  • Costau Teithio a Chynhaliaeth
  • Aelodaeth/Cymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol.
  • Arbenigedd ar gontract ar gyfer ysgrifennu neu adolygu cynigion
  • Arbenigedd ar gontract i ddatblygu sylfaen o dystiolaeth
  • Hwyluso (ar gontract) cyfarfodydd consortiwm a gweithdai datblygu cynigion
  • Arbenigedd ar gontract ar gyfer trafod a chwblhau cytundebau consortiwm
  • Costau teithio ar gyfer is-gontractwr (a allai gynnwys partner rhyngwladol)
  • Costau hyfforddi
  • Cyhoeddusrwydd a lledaenu gweithgarwch a chanlyniadau
  • Gellir ystyried costau staff fesul achos lle maent yn cynrychioli amser staff ychwanegol a'r "gwerth gorau neu’r unig ffordd o gyflawni amcanion y gweithgaredd" (bydd angen amserlenni staff a thystiolaeth o'r taliad)

I gael mwy o wybodaeth am gynllun Cymru Ystwyth a chael cymorth i wneud cais, cysylltwch â Linda Cook.

Os oes angen cyngor pellach arnoch ar sut i wneud cais ar gyfer pob un o'r rhain cysylltwch â Linda Cook.