Horizon Europe
Horizon Europe yw rhaglen ymchwil ac arloesi saith mlynedd nesaf yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn rhedeg o 2021 i 2027 gyda chyllideb o € 95.5 biliwn. Amcan cyffredinol y rhaglen yw cyflawni gwyddonol, technolegol, economaidd ac effaith gymdeithasol buddsoddiadau'r Undeb mewn Ymchwil a Datblygu, i gryfhau seiliau gwyddonol a thechnolegol yr Undeb, a meithrin ei gystadleurwydd.
Diweddariad ar gyllid Horizon Chwefror 2023
Mae'r diweddariad hwn yn edrych yn gyffredinol ar:
- Y cyllid sy'n dal ar gael i ymchwilwyr y Deyrnas Unedig drwy raglen Horizon Europe (2021-27).
- Y sefyllfa bresennol o ran cysylltiad y Deyrnas Unedig â'r cynllun ac ariannu ceisiadau llwyddiannus.
Strwythur ariannu Horizon:
Mae gan Horizon Europe 3 piler -
- Excellent Science pillar yn cefnogi prosiectau ymchwil ffiniol sydd wedi'u cynllunio a'u gyrru gan ymchwilwyr trwy'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC). Mae hefyd yn ariannu cymrodoriaethau a symudedd ymchwilwyr trwy Marie Skłodowska-Curie Actions, ac yn buddsoddi mewn seilweithiau ymchwil o'r radd flaenaf
- Global Challenges and European Industrial Competiveness pillar yn cefnogi ymchwil i heriau cymdeithasol, yn atgyfnerthu galluoedd technolegol a diwydiannol, ac yn gosod cenadaethau ledled yr UE gyda nodau uchelgeisiol sy'n mynd i'r afael â rhai o'n problemau mwyaf (iechyd, newid yn yr hinsawdd, ynni glân, symudedd, diogelwch, digidol, deunyddiau, ac ati)
- Innovative Europe pillar yn anelu at wneud Ewrop yn flaenllaw ym maes arloesi sy'n creu marchnad a thwf busnesau bach a chanolig trwy'r Cyngor Arloesi Ewropeaidd. Bydd yn helpu i ddatblygu tirwedd arloesi Ewropeaidd yn gyffredinol. Bydd y Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewropeaidd (EIT) yn parhau i feithrin integreiddiad busnes, ymchwil, addysg uwch ac entrepreneuriaeth
Mae gan raglen Horizon nifer o gyfleoedd i ennill cyllid grant ymchwil. Bydd galwadau newydd yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf ar gyfer cyfleoedd yn Rhaglen Waith 2023/24, a gadarnhawyd ym mis Rhagfyr 2022.
Colofn 1: Gwyddoniaeth Wych |
Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC)
|
Grantiau Marie Sklodowska-Curie
|
|
Colofn 2: Heriau Byd-eang a Chystadleurwydd Diwydiannol Ewropeaidd |
Grantiau cyllid consortiwm wedi’u grwpio’n 6 chlwstwr:
|
Colofn 3: Ewrop Arloesol |
Sefydliad technoleg ac arloesi Ewropeaidd - Cymuned gwybodaeth ac arloesi
Ecosystemau Arloesedd Ewropeaidd
|
Euratom |
|
Copernicus |
Cenadaethau Horizon -
Yn ogystal â'r 6 chlwstwr ar gyfer cynigion cydweithredol yng ngholofn 2 a amlygwyd uchod, mae'r Comisiwn Ewropeaidd hefyd wedi cyhoeddi pum Cenhadaeth gyffredinol yn ddiweddar.
5 Cenhadaeth yr UE
3. Adfer ein Cefnfor a'n Dyfroedd erbyn 2030
4. 100 o Ddinasoedd Clyfar a Niwtral o ran yr Hinsawdd erbyn 2030
Mae'r galwadau hyn yn cynnig y cyfle i wneud ymchwil mewn meysydd penodol ond hefyd yn cynnig cyfleoedd trawsddisgyblaethol. Gallai’r rhain apelio at ymchwilwyr/grwpiau sydd eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gydag ymchwilwyr Ewropeaidd neu sy'n awyddus i greu prosiectau ymchwil cydweithredol.
Pryd mae'r galwadau’n agor/cau?
Mae'r galwadau sydd newydd agor yn cau rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024 yn dibynnu ar y golofn.
Cysylltiad â Horizon Europe (2021-27) beth yw'r sefyllfa bresennol?
Roedd cysylltiad y Deyrnas Unedig â Horizon Europe yn amodol ar gadarnhau'r cytundeb Masnach a Chydweithrediad rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ym mis Ebrill 2021. Fodd bynnag, mae cadarnhad yn dal i ddibynnu'n bennaf ar gytundeb Masnach Gogledd Iwerddon. Hyd nes y gwneir y penderfyniad hwnnw, caiff ymgeiswyr y Deyrnas Unedig ddal i wneud cais am y prosiectau a ddisgrifir uchod fel buddiolwr.
Ga’ i wneud cais am gyllid Horizon o hyd?
Cewch! Caiff ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wneud cais am gyllid Horizon Europe fel unigolyn o hyd (grantiau ERC/Marie Sklodowska-Curie Actions) ac fel aelodau o gonsortiwm (Colofn 2 a 3). Rhaid gwneud hyn fel buddiolwr . Mae pob un o'r cynlluniau a restrir yn y tabl uchod yn gymwys i ymchwilwyr y Deyrnas Unedig.
Caiff ymchwilwyr y Deyrnas Unedig ddal i wneud cais fel cydlynydd prosiect neu arweinydd pecyn gwaith (yn y consortiwm).
Nodir hyn yn glir mewn cyfathrebiad gan y Comisiwn Ewropeaidd (22.12.2022)
“...Caiff ymgeiswyr y Deyrnas Unedig eu trin fel pe bai'r Deyrnas Unedig yn wlad gysylltiol drwy gydol y broses, o’r cam o dderbyn a chymhwyso i’r gwerthuso, hyd nes y paratoir y
cytundebau grant. Fodd bynnag, dim ond os daw'r cysylltiad i rym y ceir llofnodi cytundebau grant. Rhoddir yr un driniaeth hefyd i unrhyw ymgeiswyr o wledydd cysylltiol eraill sy'n ymwneud â'r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd mewn proses gymdeithasu weithredol."
Beth sy'n digwydd os dyfernir grant cyn i'r cysylltiad gael ei gadarnhau?
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi neilltuo cyllid gwarantu i dalu am ymchwilwyr y Deyrnas Unedig sy’n llwyddo i ennill grantiau ar gyfer prosiectau a ariennir gan Horizon. Ceisir y cyllid hwn pan fydd y Cytundeb Grant yn cael ei lofnodi.
Ar y pwynt hwnnw:
- Mae'r partner yn y Deyrnas Unedig yn gwneud cais am gyllid Gwarantu’r Deyrnas Unedig gan UKRI.
- Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn ildio unrhyw swyddogaeth fel cydlynydd i bartner Ewropeaidd ond gallant barhau i weithredu fel arweinydd pecyn gwaith.
Bydd y warant bellach mewn grym ar gyfer holl alwadau Horizon Europe am gyllid sy'n cau ar neu cyn 30 Mehefin 2023.
Beth fydd yn digwydd os na fydd y Deyrnas Unedig yn dod yn wlad gysylltiol i Horizon Europe?
Os na chaiff y cysylltiad ei gadarnhau â Horizon, bydd y Deyrnas Unedig yn cael statws Trydedd Wlad, sy’n golygu:
- Mae ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wedi’u cyfyngu i geisiadau am gyllid yng Ngholofn 2
- Mae ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wedi'u cyfyngu i alwadau grant sy'n caniatáu ceisiadau o Drydydd Gwledydd.
- Caiff ymchwilwyr y Deyrnas Unedig wneud cais o hyd mewn consortiwm ag ymchwilwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd cyn belled â bod nifer partneriaid yr Undeb Ewropeaidd yn bodloni’r meini prawf sylfaenol (3 fel arfer).
- Bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddisodli gan gyllid llywodraeth y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022.
- Lle mae rheolau grant yn atal ymchwilwyr y Deyrnas Unedig rhag ymwneud yn uniongyrchol â chais Horizon, mae'n bosib cymryd rhan fel trydydd parti e.e. fel is-gontractwyr.
- Bydd y cyllid ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022 yn cymryd lle cyllid ar gyfer dyfarniadau ERC ac MSCA yng Ngholofn 1 a galwadau am gyllid yng Ngholofn 3. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau sydd eisoes yn weithredol.
Er mwyn lliniaru colled cyllid Horizon, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi datrysiad ariannol Cynllun B, ac fe'n sicrheir gan UKRO y bydd yn dod i rym yn ddi-dor os na fydd y Deyrnas Unedig yn dod yn wlad gysylltiol i Horizon Europe.
Ym mis Gorffennaf 2022, sefydlodd llywodraeth y Deyrnas Unedig becyn o fesurau ariannu trosiannol gan gynnwys:
- Cefnogaeth barhaus ar gyfer ymgeiswyr y Deyrnas Unedig sydd eisoes wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus i Horizon
- Parhad Cyfranogiad Trydydd Gwledydd yn Horizon Europe
Yn ogystal, ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddwyd £0.5 biliwn o gyllid ymchwil ar gyfer sector ymchwil a datblygu’r Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth wedi’i dargedu.
“Er mwyn cadw staff ac ar gyfer strategaethau talent leol mewn prifysgolion cymwys a sefydliadau ymchwil, Sicrhau bod labordai’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod gyda’r gorau yn y byd ac ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu .”
Mae hyn yn sicrhau cyllid gan lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus i alwadau Horizon fel Trydedd Wlad hyd at o leiaf 31/3/2025.
Sut y galla i barhau i gynnal perthynas gyda grwpiau ymchwil Ewropeaidd?
Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd parhaus o ran bod yn wlad gysylltiol ar gyfer Horizon, mae'n bwysig parhau gyda cheisiadau am gyllid drwy Horizon Europe. Mae'n bwysig hefyd cynnal rhwydweithiau gyda chydweithwyr Ewropeaidd, gyda'r nod o wneud ceisiadau i weithio mewn consortiwm gydag ymchwilwyr Ewropeaidd. Er mwyn cynorthwyo i gynnal y cysylltiadau hyn, mae nifer o gronfeydd ar gael i ymchwilwyr y Deyrnas Unedig er mwyn datblygu a chynnal rhwydweithiau ymchwil gyda phartneriaid Ewropeaidd.
Rhaglenni gwaith wedi cyhoeddu:
PILLAR 1
Research Infrastructure Work programme
PILLAR 2
Cluster 1 Health
Cluster 2 Culture creativity and inclusive society
Cluster 3 Civil security for Society
Cluster 4 Digital, Industry & Space
Cluster 5 Climate, Energy & Mobility
Cluster 6 Food, Bioeconomy, Natural Resources, Agriculture & Environment
PILLAR 3