Cronfa Gooding

Mae Cronfa Gooding yn gymynrodd i gefnogi ymchwilwyr sy'n gweithio yn y gwyddorau, ac yn achlysurol myfyrwyr ymchwil, sy’n mynychu cynadleddau academaidd.

Manylion ariannol

Uchafswm y dyfarniad:
Deyrnas Unedig - £1,000
Rhyngwladol - £2,500

Mae’r canlynol yn gostau cymwys:
1. Teithio: Gweler y canllawiau a ddarperir gan yr Adran Gyllid: Teithio a Fflyd ar gyfer archebu a chaffael dulliau teithio.
2. Costau Cynhaliaeth: Cyfraniad tuag at gostau cynhaliaeth. Mae cyfraddau Addysgu ac Ysgoloriaeth PA yn berthnasol.
3. Ffioedd Cynhadledd: Bydd ffioedd cynhadledd rhesymol yn cael eu had-dalu

Dylid gwario’r holl arian o fewn y flwyddyn academaidd, h.y. ei gwblhau erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf.

Pwy sy’n gymwys?

Mae aelodau o staff a myfyrwyr ymchwil sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth yn gymwys ar gyfer y wobr hon. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau staff, mewn amgylchiadau eithriadol y caiff myfyrwyr ymchwil eu hariannu.

Sylwch, dim ond un cais llwyddiannus y flwyddyn academaidd.

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais, gofynnwch i’ch Pennaeth Adran ei llofnodi ac yna cyflwynwch hi’n electronig i drbi@aber.ac.uk gyda'r teitl pwnc 'Cronfa Gooding'.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn fisol erbyn y 1af o bob mis. Rhaid gwneud ceisiadau cyn mynychu’r Gynhadledd – ni fydd ceisiadau ôl-weithredol yn cael eu hystyried. Disgwylir ateb mewn uchafswm o 6 wythnos.

Cais Cronfa Gooding Fund Application