Ymchwil ac Arloesi'r Deyrnas Unedig (UKRI)

Mae UKRI yn gorff cyhoeddus anadrannol a noddir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae UKRI yn uno'r saith cyngor ymchwil disgyblaethol sy'n gyfrifol am gefnogi ymchwil a chyfnewid gwybodaeth mewn sefydliadau addysg uwch 

Mae cyllid ar gael ar ffurf: 

  • grantiau i ymchwilwyr neu grwpiau o ymchwilwyr ar brosiect penodol 
  • cymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr unigol 
  • ysgoloriaethau ar gyfer y rhai sy'n dechrau ar eu hastudiaethau uwchraddedig 
  • cymorth ar gyfer gweithgareddau ymchwil hanfodol gan gynnwys teithio dramor, prynu offer a sefydlu rhwydweithiau. 

Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) - Prif gyllidwr ymchwil biolegol sylfaenol a strategol y Deyrnas Unedig. Cyfleoedd Presennol.   

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)  - Yn ariannu ymchwil ac astudiaeth uwchraddedig ym mhynciau'r celfyddydau traddodiadol a'r Dyniaethau, megis hanes, ieithoedd modern, llenyddiaeth Saesneg, y celfyddydau creadigol a pherfformio. Cyfleoedd Presennol.   

Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)  - Yn ariannu ymchwil a hyfforddiant mewn peirianneg a'r gwyddorau ffisegol, yn cynnwys ystod eang o bynciau, o fathemateg i wyddor deunyddiau, ac o dechnoleg gwybodaeth i beirianneg strwythurol. Cyfleoedd Presennol.   

Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - ESRC yw cyllidwr gwyddoniaeth economaidd, gymdeithasol, ymddygiadol a data dynol mwyaf y Deyrnas Unedig. Cyfleoedd  Presennol.   

Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) - Mae'r MRC yn ariannu'r ymchwil gwyddonol blaenaf er mwyn atal salwch, datblygu therapïau a gwella iechyd pobl. Cyfleoedd Presennol.   

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC)   – Mae NERC yn ariannu ac yn rheoli ymchwil a hyfforddiant mewn gwyddorau systemau daear, gan hyrwyddo gwybodaeth am y Ddaear fel system ryngweithiol gymhleth.  Cyfleoedd Presennol.   

Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)   - Cenhadaeth STFC yw darparu'r doniau ymchwil ac arloesi cenedlaethol a rhyngwladol mwyaf blaenllaw yn y byd a, thrwy hynny, ddarganfod cyfrinachau'r bydysawd. Cyfleoedd Presennol.   

Ymchwil Trawsfudol

Defnyddir cyllid trawsfudol i bontio’r ‘bwlch’ rhwng ymchwil prifysgol cyfnod cynnar a’i fasnacheiddio. Trwy ddefnyddio cyllid trawsfudol, mae'r risg yn cael ei leihau i bartneriaid masnachol posibl. Mae hyn yn gwneud y cyfle yn fwy deniadol ac yn gwneud canlyniad llwyddiannus yn fwy tebygol.

Partneriaethau SMART - Mae Partneriaethau SMART yn cynnig help ariannol i brosiectau cydweithredol ac arloesol sydd angen help arbenigwyr arnyn nhw i dyfu, i fod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.

Nod Partneriaethau SMART yw cefnogi prosiectau cydweithredol, gyda phwyslais clir ar wella capasiti a gallu busnesau Cymru i ddatblygu gweithgareddau ymchwil a datblygu trwy eu cysylltu â chyrff ymchwil ac â chynorthwyydd i'w helpu i weithio ar brosiect penodol sy'n datblygu gwasanaeth, cynnyrch neu broses newydd, a hynny’n unol ag Arbenigo Craff.

Innovate UK - Innovate UK yw asiantaeth arloesi genedlaethol y DU. Rydym yn cefnogi arloesi a arweinir gan fusnes ym mhob sector, technoleg a rhanbarth y DU. Rydym yn helpu busnesau i dyfu trwy ddatblygu a masnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd, a gefnogir gan ecosystem arloesi ragorol sy'n ystwyth, yn gynhwysol ac yn hawdd i'w llywio. Cyfleoedd Presennol.

Adrannau'r Llywodraeth a Chyrff Cyhoeddus

O bryd i'w gilydd mae adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyrff cyhoeddus yn galw am gynigion ar gyfer ymchwil a fydd yn dylanwadu ar ddatblygiad polisi. 

Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DEFRA)  - Pwrpas craidd DEFRA yw gwella ansawdd bywyd, nawr ac yn y dyfodol. Mae DEFRA yn cyfuno buddiannau ffermwyr a chefn gwlad; yr amgylchedd a'r economi wledig; y bwyd rydym ni'n ei fwyta, yr aer rydym ni'n ei anadlu a'r dŵr rydym ni'n ei yfed. Mae DEFRA yn integreiddio amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd - gan weithio ar ddatblygiad cynaliadwy bob dydd, a thrwy hyrwyddo datblygiad cynaliadwy fel y ffordd ymlaen i'r Llywodraeth. 

Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) - Mae'r FCDO yn canolbwyntio ar fuddiannau cenedlaethol ac yn cyflwyno'r Deyrnas Unedig fel grym er daioni yn y byd. Maent yn hyrwyddo buddiannau dinasyddion Prydain, yn diogelu diogelwch y Deyrnas Unedig, yn amddiffyn ein gwerthoedd, yn lleihau tlodi, ac yn mynd i'r afael â heriau byd-eang gyda'n partneriaid rhyngwladol. 

Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) – Mae BEIS yn arwain trawsnewidiad yr economi gyfan trwy gefnogi menter a thwf tymor hir, cynhyrchu ynni rhatach, glanach yma yn y Deyrnas Unedig ac yn hyrwyddo'r Deyrnas Unedig fel uwch-bŵer mewn gwyddoniaeth trwy arloesi. 

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) - CCAUC sy'n gyfrifol am ariannu addysg uwch yng Nghymru.  Mae'n rhoi arian i gefnogi addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig mewn 11 sefydliad addysg uwch, ac yn ariannu gweithgareddau addysgu'r Brifysgol Agored yng Nghymru a chyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach.  Cyfleoedd presennol.   

Cyllid Cyfnewid Gwybodaeth

Mae cyfnewid gwybodaeth yn broses sy’n dod â staff academaidd, defnyddwyr ymchwil a grwpiau a chymunedau ehangach at ei gilydd i gyfnewid syniadau, tystiolaeth ac arbenigedd. Isod mae rhai cyfleoedd ariannu ar gyfer Cyfnewid Gwybodaeth.

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) - Mae’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn un o’r cynlluniau mwyaf hir sefydlog sydd ar gael i academyddion a chwmnïau sy’n dymuno cydweithio.

Elusennau a Sefydliadau

Mae gan bob sefydliad ac asiantaeth sy'n darparu cyllid ymchwil eu meini prawf eu hunain ar gyfer penderfynu ar sut i ddyrannu eu hadnoddau. Mae gan bob asiantaeth wahanol set o flaenoriaethau a pholisïau ar gyfer y math o ymchwil y byddant yn ei ariannu, a faint o gyllid y byddant yn ei ddarparu. 

Er mwyn gwneud yn fawr o'ch potensial i lwyddo, mae'n bwysig eich bod yn dod o hyd i gyllidwyr y mae eu proffil yn cyd-fynd â'ch anghenion, fel bod modd i chi dargedu eich cais at y cyllidwr mwyaf priodol. 

Yr Academi Brydeinig - Yr Academi Brydeinig yw'r academi genedlaethol ar gyfer y Dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae'n gymrodoriaeth annibynnol, hunanlywodraethol o dros 800 o ysgolheigion, wedi eu hethol ar sail eu rhagoriaeth a'u cyflawniad mewn un neu fwy o ganghennau'r disgyblaethau academaidd y Dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae'r Academi yn cefnogi ymchwil ôl-ddoethurol yn y Dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. 

Ymddiriedolaeth Wellcome - Elusen annibynnol sy'n cyllido ymchwil i wella iechyd pobl ac anifeiliaid. Ffynhonnell gyllid anllywodraethol fwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil biofeddygol. 

Y Cyngor Prydeinig - Yn cysylltu pobl gyda chyfleoedd dysgu a syniadau creadigol o'r Deyrnas Unedig er mwyn meithrin perthnasoedd parhaol dros y byd sydd o fudd i'r ddwy ochr, ac er mwyn cynyddu gwerthfawrogiad o syniadau a chyflawniadau creadigol y Deyrnas Unedig. 

Ymddiriedolaeth Leverhulme - Mae Ymddiriedolaeth Leverhulme yn creu gwobrau am gefnogi ymchwil ac addysg. Mae'r Ymddiriedolaeth yn rhoi pwyslais ar yr unigolyn ac yn cwmpasu pob maes pwnc. 

Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA) - Y gwaddol unigol mwyaf sydd wedi ei neilltuo'n benodol i gefnogi doniau, arloesedd a chreadigrwydd yn y Deyrnas Unedig. Cenhadaeth NESTA yw trawsnewid gallu'r Deyrnas Unedig i arloesi. Buddsoddi mewn cwmnïau yn eu cyfnod cynnar, llywio polisi arloesi ac annog diwylliant sy'n helpu ffyniant arloesedd. 

Rhaglen NATO SPS (Gwyddoniaeth dros Heddwch a Diogelwch) - Nod y rhaglen yw cyfrannu at ddiogelwch, sefydlogrwydd ac undod ymhlith cenhedloedd, trwy fanteisio ar yr arbenigedd technegol gorau i ddatrys problemau. Cynnig grantiau i wyddonwyr yng ngwledydd NATO, gwledydd Partner a gwledydd Deialog Môr y Canoldir er mwyn cydweithio ar bynciau ymchwil blaenoriaethol, sy'n cynnwys blaenoriaethau NATO a blaenoriaethau'r gwledydd Partner. 

Sefydliad Nuffield - Un o ymddiriedolaethau elusennol mwyaf adnabyddus y Deyrnas Unedig, sydd â'r bwriad o 'hyrwyddo lles cymdeithasol ', yn enwedig trwy ymchwil ac arbrofi ymarferol. Nod y Sefydliad yw cyflawni hyn trwy gefnogi gwaith a fydd yn arwain at welliannau yn y gymdeithas, sy'n seiliedig ar fyfyrio gofalus ac a gaiff ei lywio gan dystiolaeth wrthrychol a dibynadwy. 

Y Gymdeithas Frenhinol - academi wyddonol hynaf y byd o ran parhad ei bodolaeth. Mae'r gymdeithas wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil a darganfyddiadau ers iddi gael ei sefydlu ym 1660. Mae'r Gymdeithas yn annibynnol ar y llywodraeth. Cefnogi rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth sydd wrth wraidd holl waith y Gymdeithas. 

Yr Academi Beirianneg Frenhinol - academi genedlaethol Prydain ar gyfer peirianneg. Hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth, celf ac ymarfer peirianneg. Blaenoriaethau strategol y sefydliad yw gwella doniau peirianneg y Deyrnas Unedig; dathlu rhagoriaeth ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf; ac arwain y drafodaeth drwy gyfeirio syniadau gwybodus a dylanwadu ar bolisi cyhoeddus. 

Cymdeithas Ymchwil i Addysg Uwch - Mae'r Gymdeithas Ymchwil i Addysg Uwch yn gymdeithas ddysgedig ryngwladol yn y Deyrnas Unedig sy'n ymwneud â hyrwyddo dealltwriaeth o addysg uwch, yn enwedig trwy'r mewnwelediadau, y safbwyntiau a'r wybodaeth a gynigir gan ymchwil ac ysgolheictod systematig. Nod y Gymdeithas yw bod y gymdeithas ryngwladol flaenllaw yn y maes, o ran cefnogaeth a lledaenu ymchwil. 

Comisiwn Fulbright - Crëwyd Comisiwn Fulbright yr Unol Daleithiau - y Deyrnas Unedig trwy gytundeb ym 1949 ac ers ei sefydlu mae ei raglen wedi ei ehangu i gynnwys grantiau ar gyfer astudio mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae Gwobrau Ysgolheigion a Chymrodyr Fulbright yn rhoi modd i ddarlithwyr ôl-ddoethurol ac academyddion, a gweithwyr proffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd dreulio cyfnod o amser yn gwneud gwaith ymchwil yn yr Unol Daleithiau. 

Sefydliad Joseph Rowntree - Un o'r elusennau ymchwil a datblygu polisi cymdeithasol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Gwario tua £10 miliwn y flwyddyn ar raglen ymchwil a datblygu sy'n ceisio deall yn well yr hyn sy'n achosi anawsterau cymdeithasol ac archwilio ffyrdd o'u goresgyn. 

Sefydliad Earthwatch - Mae Earthwatch yn elusen amgylcheddol ryngwladol sy'n ymrwymo i warchod amrywiaeth ac uniondeb bywyd ar y ddaear er mwyn diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Cenhadaeth Earthwatch yw ymgysylltu pobl ledled y byd mewn ymchwil maes ac addysg wyddonol i hyrwyddo'r ddealltwriaeth a'r camau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau amgylchedd cynaliadwy. Earthwatch yw un o'r cyllidwyr preifat mwyaf sy'n ariannu ymchwil yn y maes gwyddonol. 

Cymdeithas yr Hynafiaethwyr - Pwrpas y sefydliad yw 'annog, datblygu a hybu astudiaeth a gwybodaeth am hynafiaethau a hanes y wlad hon a gwledydd eraill'. Mae'r Gymdeithas yn gweinyddu nifer o wahanol gronfeydd, rhai ohonynt wedi'u neilltuo i feysydd diddordeb penodol. 

Cyllid Rhyngwladol

Mae'r Uned Ryngwladol o fewn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn dîm sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid gan anelu at gynyddu lefel y gwasanaeth i'r gymuned ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy leihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â gwneud cais a rheoli grantiau Ewropeaidd.

Gan weithio'n agos gyda staff Grantiau Ymchwil, mae’r Uned ar gael i helpu hyrwyddo cyfraniad Prifysgol Aberystwyth ym mhob prosiect Rhaglen Fframwaith a Strwythurol Ewropeaidd yn ystod pob cam o gylch oes prosiectau perthnasol. Fodd bynnag, prif ffocws yr Uned yw darparu gwasanaeth cyn-ddyfarnu cronfa broffesiynol, effeithiol ac effeithlon i staff y Brifysgol sy'n ymwneud ag ymchwil trwy:

  • Hyrwyddo cyfleoedd cyllido yn brydlon
  • Darparu cyngor arbenigol yn ystod y cyfnod adeiladu cais a chamau trafod
  • Cymhwyso methodolegau rheoli a datrys problemau prosiectau tra’n adeiladu cynigion

Rhestrir crynodeb o'r rhaglenni cyllido Ewropeaidd cyffredinol isod:

Anogir cydweithwyr i gysylltu â'r Uned Ryngwladol cyn gynted â phosibl, i ofyn am gyngor ac i sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisïau'r Brifysgol.

Sut allaf ddarganfod a yw fy syniad yn ariannadwy?

Cysylltwch â'r Uned Ryngwladol am gyngor cynnar ynghylch a allai eich syniad prosiect fod yn gymwys ac, os felly, y llif arian Ewropeaidd mwyaf priodol. Bydd angen i bob syniad prosiect gydweddu â strategaethau a blaenoriaethau'r adran a'r sefydliad ac ategu ceisiadau am arian Prifysgol Aberystwyth eraill. Efallai y bydd angen cymeradwyaeth adrannol ac o bosibl cyn i unrhyw syniad fynd rhagddo ac unrhyw gynigion ariannu posibl a gyflwynir, felly ceisiwch gyngor cyn gynted â phosibl.