AberSeed
Beth yw AberSEED?
Sefydlwyd AberSeed 2024 ar gynllun peilot llwyddiannus yn 2023. Dyma yw ein fersiwn ni o raglen Innovate UK: ICURe EXPLORE ac fe'i crëwyd fel rhan o Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru Prifysgol Aberystwyth.
Mae AberSEED wedi'i gynllunio'n bwrpasol i fod yn hyblyg ac yn hygyrch ar gyfer staff sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil mewn unrhyw ddisgyblaeth. P'un a oes gennych syniad neu ddyfais, yn teimlo bod gennych y sgiliau neu'r arbenigedd a allai gael effaith y tu hwnt i'r byd academaidd, neu fod gennych ysbryd entrepreneuraidd – efallai mai hon yw'r rhaglen i chi.
ARIANNOL (BUDDIANNAU)
Sut gall AberSEED helpu?
Mae angen mwy nag ysbrydoliaeth ar syniadau gwych, ar brosiectau ymchwil a dyfeisiadau - mae angen eu meithrin a’u harwain hefyd a rhoi’r offer fusnes cywir iddyn nhw fel y gallan nhw dyfu. Mae AberSEED yn rhoi'r rhain i chi: yn datblygu eich sgiliau entrepreneuraidd, yn adeiladu rhwydwaith effeithiol, yn cynnal ymchwil i'r farchnad ac yn datblygu cynllun masnachol.
Beth mae AberSEED yn ei gynnwys?
- Mentora a chefnogaeth gan arbenigwyr diwydiant Flint Innovation Ltd;
- Bŵtcamp dwys am 3 diwrnod sy'n cwmpasu prif egwyddorion a thechnegau ymchwilio’r farchnad;
- Cyllideb ar gyfer teithio a chynhaliaeth dros gyfnod o 3 i 4 mis;
- 'Prynu allan' i neilltuo amser bob wythnos i'ch prosiect AberSEED (e.e. 1 diwrnod yr wythnos);
- Ymchwil i’r farchnad yn y byd go iawn gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr posibl;
- Cynllun masnachol terfynol a digwyddiad 'cylchfan opsiynau' i weld beth yw’r "cam nesaf".
Pwy gaiff wneud cais?
Gall staff ymchwil gweithredol (nid myfyrwyr), ar draws unrhyw adran, wneud cais i raglen AberSEED. Mae'r canlynol yn gostau cymwys:
- Teithio: cymrwch olwg ar y canllawiau a ddarperir gan yr Adran Gyllid. Ewch at Teithio a Fflyd i archebu a chaffael dulliau o gludiant.
- Cynhaliaeth: cyfraniad tuag at gostau cynhaliaeth. Mae cyfraddau Teithio a Chynhaliaeth Prifysgol Aberystwyth yn berthnasol.
- Cynadleddau: cynhadledd resymol a pherthnasol, sioe fasnach, ffioedd digwyddiadau rhwydweithio.
- Rhai nwyddau traul: e.e. tanysgrifiadau ar-lein – LinkedIn Premium.
GWNEUD CAIS
Bydd ail rownd rhaglen 2024 yn agor yn fuan, yn dilyn digwyddiad briffio ddydd Mercher 26 Mehefin.
Bydd angen cyflwyno’r Ffurflen gais ar-lein erbyn 17:00 ar 10 Gorffennaf 2024.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â drbi@aber.ac.uk