AberCollab

Mae cydweithio yn cryfhau ymchwil, yn meithrin cyfnewid gwybodaeth gadarn ac yn arwain at effaith ymchwil cryf.

Rhaglen AberCollab 2024-25:

Mae rhaglen ariannu a hyfforddi AberCollab a grëwyd yn rhan o Strategaeth Arloesi a Chyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol.

Nod AberCollab yw helpu ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau partneriaethau a rhannu gwybodaeth mewn modd effeithiol er mwyn cefnogi arloesedd ac effaith ymchwil. Gall y cydweithio yma ddigwydd yn ystod bob cam o'r broses ymchwil; pan yn meddwl am syniadau, pan yn gwneud yr ymchwil, pan yn ehangu rhaglenni ymchwil neu pan yn rhannu ymchwil (cyfnewid gwybodaeth ac effaith ymchwil).  

Manylion

Bydd y rhaglen yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ariannol o hyd at £3,000 ar gyfer gweithdai cydweithio a digwyddiadau rhwydweithio gyda'r bwriad o hwyluso rhyngweithio deallusol a chreadigol rhwng ymchwilwyr y Brifysgol a phartneriaid allanol. Er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd hyn bydd enillwyr AberCollab yn mynychu gweithdy hyfforddi undydd ac yn derbyn hyfforddiant ychwanegol gan y Ganolfan Ddeialog.

Ariennir y rhaglen gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) drwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • £3,000 i gefnogi gweithdy neu ddigwyddiad cydweithio
  • Hyfforddiant undydd mewn sut i redeg gweithdy effeithiol – 21 Ionawr 2025
  • Cymorth i gyfieithu eich gwaith ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus
  • Cymorth ymarferol ar gyfer eich gweithdy/digwyddiad
  • Cinio ar 9 Gorffennaf 2025 gyda'ch cyd-enillwyr er mwyn mynd ati i rannu profiadau

Sut i wneud cais

Danfonwch eich cais erbyn 2 Rhagfyr 2024 (4yh).

Cwblhewch a chyflwynwch Ffurlen Gais AberCollab.

Am fwy o wybodaeth:

Os oes unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod syniadau posibl ar gyfer gweithdai, cysylltwch â ni ar ymchwil@aber.ac.uk.