Trefn Ymgeisio ac Asesu Moeseg Ymchwil
Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno trefn newydd ar-lein ar gyfer adolygiadau moesegol, i ddisodli’r holl ffurflenni papur. Caiff y drefn newydd ei defnyddio gan holl aelodau’r Brifysgol sy’n ymwneud ag ymchwil, gan gynnwys staff, myfyrwyr uwchraddedig ac israddedig.
Mae i’r drefn ddau brif gam, a fydd yn caniatáu i ymchwilwyr:
- Gyflwyno asesiad o ystyriaethau moesegol eu hymchwil i’w hadran i’w adolygu.
- Cyflwyno cais i’r Panel Moeseg Ymchwil perthnasol, pe byddai’r adran neu’r asesiad yn mynnu hynny.
Bydd y drefn hefyd yn caniatáu i staff adolygu asesiadau a gyflwynwyd i’w hadran.
Cliciwch yma i gael mynediad i'r ffurflen Cais Moeseg Ymchwil
Cliciwch yma i adolygu ceisiadau moeseg
Rydym wedi creu dogfen ganllaw fer ar gyfer staff a fydd yn adolygu ceisiadau moeseg.
Rhaid i bob cynnig ymchwil gael ei asesu – anfonir y ffurflen i’r adran er mwyn ystyried a ddylid gwneud cais i’r Panel Moeseg Ymchwil perthnasol.
- Dylai myfyrwyr ymgynghori â’u Harolygydd, cydlynydd modiwl y traethawd ymchwil neu unigolyn arall priodol ynglŷn ag ystyriaethau moeseg eu cynnig.
- Yn yr un modd, efallai y bydd staff yn dymuno ymgynghori â Chyfarwyddwr Ymchwil yr Adran/Athrofa.
Mae’n bwysig nodi bod ymchwil sy’n ymwneud ag anifeiliaid yn dilyn yr un drefn.
Dylech ymgyfarwyddo â’r cyfarwyddyd a’r cymorth sydd i’w cael fan hyn, cyn dechrau ar y drefn ar-lein: Moeseg Ymchwil yn Aberystwyth