Ms Susan Ferguson

Ms Susan Ferguson

Research Impact and Knowledge Officer

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Susan ag YBA ym mis Chwefror 2019. Cyn hynny bu’n gweithio yn y Tîm E-Ddysgu yn y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Cefnogodd Susan staff ar draws y brifysgol. Darparodd gefnogaeth E-ddysgu a Gwasanaethau Gwybodaeth.

Addysg a phrofiad gwaith

Mae gan Sue radd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth a bu’n gweithio yn y tîm E-ddysgu yn y Gwasanaethau Gwybodaeth cyn ymuno ag Ymchwil, Busnes ac Arloesi fel Swyddog Effaith Ymchwil ym mis Chwefror 2019.

Profiad a gwybodaeth

Mae gan Susan brofiad o weithio gyda staff ar draws PA, delio ag ymholiadau ac ymchwilio iddynt, ysgrifennu canllawiau gweithdrefnol, helpu i ddarparu a chefnogi hyfforddiant staff gweithdrefnol, gweithredu fel clerc i bwyllgor prifysgol ehangach a threfnu sesiynau hyfforddi adrannol.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Gan weithio'n agos gyda'r Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth eraill, mae Sue yn gyfrifol am helpu i nodi a datblygu astudiaethau achos effaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Ei phrif ffocws yw gweithio gyda staff yn yr Ysgol Busnes, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Astudiaethau Gwybodaeth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y Gyfraith a Throseddeg, a Seicoleg. Mae hyn yn golygu gweithio gyda'r Deoniaid Cyswllt (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi) a Chyfarwyddwyr Ymchwil yr adrannau i hyrwyddo'r gwaith o gofnodi data a thystiolaeth effaith ymchwil. Ynghyd â'r Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth eraill, gall Sue ddarparu hyfforddiant mewnol ar effaith ymchwil i staff academaidd.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Sue yn mwynhau dod i wybod am yr ystod eang o ymchwil a phrosiectau sy'n digwydd a'r effeithiau y maent yn eu cael ar y gymdeithas ehangach.

Cyfrifoldebau

Fel Swyddog Effaith Ymchwil rwy’n gweithio’n agos â Swyddogion Effaith Ymchwil eraill i adnabod a datblygu astudiaethau achos effaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY2021 a thu hwnt). Mae hyn yn golygu gweithio gydag academyddion ac adrannau ar draws y brifysgol i helpu i adnabod a chynorthwyo’r astudiaethau achos effaith, gan gynnwys dangos tystiolaeth o effaith ymchwil ar gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. Fy mhrif ffocws yw gweithio gyda staff yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, Rheoli Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau a Gwleidyddiaeth Ryngwladol.  Mae hyn yn golygu gweithio gyda’r Deoniaid Cysylltiol (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi) ac arweinwyr effaith adrannol i hyrwyddo’r arfer o gofnodi tystiolaeth a data effaith ymchwil. Ynghyd â Swyddogion Effaith Ymchwil eraill, gallaf ddarparu hyfforddiant mewnol ar effaith ymchwil i staff academaidd. Cysylltwch â mi os hoffech drafod effaith eich prosiect ymchwil.