Dr Jennifer Deaville

Dr Jennifer Deaville

Rheolwr Datblygu Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Dechreuodd Jenny fel Swyddog Datblygu Ymchwil ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Chwefror 2010 yn y Swyddfa Ymchwil, yr hyn a oedd bryd hynny. Ymunodd â YBA fel Rheolwr Datblygu Ymchwil yn 2014. Cyn ymuno â’r Brifysgol roedd Jenny yn Rheolwr Ymchwil yn y Sefydliad Iechyd Gwledig (IRH), wedi’i lleoli yn Neuadd Gregynog ym Mhowys. Fel rhan o'r rôl hon, treuliodd Jenny gyfnod hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Datblygu Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Yn y Sefydliad Iechyd Gwledig, Jenny oedd yn gyfrifol am y swyddogaeth ymchwil, gan gynnwys datblygu a gweithredu strategaeth ymchwil, ennill cyllid grant, rheoli grantiau ymchwil a rheoli’r tîm ymchwil.

Addysg a phrofiad gwaith

Mae gan Jenny BSc (Anrh) Daearyddiaeth (1993) a PhD mewn Daearyddiaeth Wledig (1998) o Brifysgol Coventry. Ar ôl ei PhD gweithiodd a hyfforddodd fel Dadansoddwr Iechyd Cyhoeddus ac yna Epidemiolegydd yn Awdurdod Iechyd Swydd Gaerwrangon gan ennill diploma ôl-raddedig mewn Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg (1998, Prifysgol Birmingham). Yn dilyn hyn, symudodd i yrfa mewn rheoli ymchwil a datblygu ymchwil.

Profiad a gwybodaeth

Mae cefndir ymchwil Jenny (Daearyddiaeth ac iechyd gwledig) a'i phrofiad dilynol o ennill a rheoli arian grant yn rhoi profiad a gwybodaeth ymarferol iddi wrth gynghori a chefnogi Ymchwilwyr sy'n gwneud cais am grantiau ymchwil, yn enwedig yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae arwain a rheoli swyddogaeth ymchwil IRH wedi rhoi profiad iddi mewn datblygu strategaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth ymchwil. Fel rhan o'i rôl yn IRH treuliodd Jenny gyfnod o amser yn darparu cymorth ymchwil i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan gynnwys eistedd ar eu Pwyllgor Llywodraethu Ymchwil. Rhoddodd ei rolau yn y sector iechyd ddealltwriaeth iddi, a diddordeb brwd mewn, moeseg ymchwil a llywodraethu a phrofiad o sut mae Paneli Moeseg Ymchwil a Phaneli Llywodraethu Ymchwil yn gweithio.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Jenny yn rheoli’r swyddogaeth datblygu ymchwil, gan sicrhau gwasanaeth cyngor a chymorth dibynadwy, rhagweithiol a phroffesiynol sy’n ymwneud â cheisiadau am grantiau ymchwil a’r adolygiad moesegol o ymchwil. Mae Jenny yn gweithio gyda’r Deoniaid Cyswllt ar gyfer Ymchwil ar weithgarwch datblygu ymchwil i wella’r ymateb i gyfleoedd ymchwil a chyllid, ac yn fwy cyffredinol y diwylliant ymchwil o fewn y Brifysgol. Mae'n darparu cymorth datblygu ymchwil i'r Gwyddorau Cymdeithasol ac mae'n gyfrifol am Foeseg Ymchwil a Gwasanaethau cefnogi uniondeb.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Jenny yn mwynhau gweithio mewn tîm, yn enwedig gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr, darganfod mwy am eu diddordebau ymchwil a chwarae rhan gefnogol wrth droi syniadau yn brosiectau a ariennir.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Rheoli'r swyddogaeth datblygu ymchwil yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi
  • Sicrhau gwasanaeth dibynadwy a rhagweithiol ar gyfer darparu cyngor a chymorth o safbwynt ceisiadau am grantiau ymchwil, gan gynnwys canfod a hyrwyddo cyfleoedd, dehongli canllawiau'r cyllidwyr, sicrhau bod ceisiadau'n cael eu costio'n briodol, a darparu cyngor ar sut i ddatblygu cynigion a'r broses gyflwyno
  • Gweithio gyda'r Cyfarwyddwyr Ymchwil ar weithgarwch datblygu ymchwil i wella'r ymateb i gyfleoedd ymchwil a chyllido, a diwylliant ymchwil y Brifysgol yn fwy cyffredinol
  • Darparu cymorth datblygu ymchwil ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Yn gyfrifol am wasanaethau cefnogi Moeseg Ymchwil ac Uniondeb 
  • Yn gyfrifol am y gwasanaethau cymorth ar gyfer y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr

Cyhoeddiadau

Deaville, J & Grant, A 2011, 'Overcoming the pull factor of convenient urban living: Perceptions of rural general practice placements', Medical Teacher, vol. 33, no. 4, pp. e211-e217. 10.3109/0142159X.2011.557409
Deaville, J, Wynn-Jones, J, Hays, RB, Coventry, PJ, McKinley, RK & Randall-Smith, J 2009, 'Perceptions of UK medical students on rural clinical placements', Rural and Remote Health, vol. 2, no. 9, 1165. <http://www.rrh.org.au/publishedarticles/article_print_1165.pdf>
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil